±«Óătv

Diffyg preifatrwydd

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar breifatrwydd pobl.

Does dim sicrwydd bydd rhywbeth sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y cyfryngau cymdeithasol yn diflannu am byth. Hyd yn oed os yw rhywbeth yn cael ei ddileu, mae’n bosibl bydd rhywun eisoes wedi ei recordio, ei lwytho i lawr, neu wedi cymryd ciplun ohono.

Hyd yn oed ar safleoedd sydd ñ ‘rhestr ffrindiau’ neu ‘ddilynwyr’, bydd pobl ddieithr yn dal i allu dilyn sgyrsiau drwy bostiadau ar waliau ac ymatebion i drydariadau.

Yn yr un modd, pan mae rhywbeth yn cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, does wybod i ble y bydd yn mynd nesaf. Mae rhai pethau’n mynd yn .

Yn îl rhai rhagolygon bydd y farchnad gwe-gamerñu fyd-eang yn werth $15.2 biliwn (tua £12.2 biliwn) erbyn 2021, sy’n dangos pa mor boblogaidd yw gwe-gamerñu er mwyn gallu sgwrsio gyda ffrindiau a theulu sy’n bell i ffwrdd.

Ond yn union fel y cyfryngau cymdeithasol, mae’n bosibl nad yw gwe-gamerñu yn breifat chwaith. Drwy ddefnyddio RAT (Remote Access Trojan), mae hacwyr yn gallu cael mynediad at we-gam unigolyn heb iddo wybod. Mae’n bwysig iawn cael y meddalwedd gwrth-firws diweddaraf er mwyn lleihau’r siawns bydd hyn yn digwydd.

Cyngor yr actores Jacqueline Jossa er mwyn bod yn ddiogel wrth ddefnyddio gwe-gamerĂąu (Cynnwys Saesneg)