Potensial i fynd yn gaeth
Mae pobl yn gallu mynd yn gaeth i gyfryngau cymdeithasol. Weithiau mae pobl yn mynd mor gaeth i gyfryngau cymdeithasol fel nad ydynt yn gallu ymwneud Ăą phobl eraill. Mae hyn yn golygu eu bod yn treulio llawer iawn oâu hamser ar eu pen eu hunain yn eu byd digidol.
Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud ond nid oes gwybodaeth bendant ynglĆ·n ag union faint y broblem hon. Er hyn, mae gwaith ymchwil gafodd ei wneud gan Social Media Today (2015) yn awgrymuâr canlynol:
- mae 28 y cant o ddefnyddwyr iPhone yn edrych ar y cyfryngau cymdeithasol cyn codi oâr gwely yn y bore
- mae pobl ifanc rhwng 15 a 19 oed yn treulio o leiaf dair awr y diwrnod yn edrych ar eu cyfryngau cymdeithasol