±«Óătv

Beth yw sgiliau?

Sgiliau yw’r gallu i wneud rhywbeth yn dda.

Mae llawer o wahanol fathau o sgiliau i’w cael. Er enghraifft, mae'n bosibl fod gan rywun arbenigedd mewn chwaraeon, codio, siarad cyhoeddus, cerddoriaeth, siarad mwy nag un iaith, celf neu ddawnsio.

Diagram petalau o sgiliau; Celf neu ddawnsio, Chwaraeon, Codio, Siarad Cyhoeddus, Cerddoriaeth, Siarad mwy nag un iaith.

Mae’n bosibl datblygu a gwella sgiliau. Mae Bagloriaeth Cymru yn canolbwyntio ar saith sgil allweddol, ac mae’r heriau wedi cael eu cynllunio er mwyn darparu cyfleoedd i ymarfer y sgiliau hyn a’u gwella nhw.

Y saith sgil yw:

  • llythrennedd
  • rhifedd
  • cynllunio a threfnu
  • creadigrwydd ac arloesi
  • effeithiolrwydd personol
  • datrys problemau a

Beth yw effeithiolrwydd personol?

Mae effeithiolrwydd yn ymwneud Ăą pha mor dda rwyt ti’n adnabod dy hun. Drwy ddeall ein cryfderau a’n gwendidau, mae modd i ni reoli a gwella ein hymddygiad a’n perfformiad. Mae’n bosibl i rywun wneud hyn yn unigol yn ogystal Ăą mewn grĆ”p.