±«Óătv

Cyfryngau cymdeithasol - hyrwyddo busnes

Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd rad i fusnesau hyrwyddo eu hunain a’r cynnyrch neu'r gwasanaethau maen nhw’n eu gwerthu.

Gallai busnesau:

  • greu tudalen Facebook a phostio cynigion arbennig i bawb sy’n ‘hoffi’ eu tudalen
  • creu eu sianel YouTube eu hunain ac ychwanegu fideos difyr neu addysgiadol
  • cyhoeddi trydariadau diddorol neu anarferol amdanynt eu hunain a’u cynnyrch neu eu gwasanaethau
  • anfon awgrymiadau ar Twitter ynglĆ·n Ăą sut i ddefnyddio eu cynnyrch neu eu gwasanaethau
  • dilyn cwsmeriaid a phobl ddylanwadol, ee entrepreneuriaid, newyddiadurwyr, blogwyr ac enwogion

Enghraifft bywyd go iawn

Dynes ifanc mewn canolfan alwadau wedi ei hamgylchynu gan gydweithwyr

Mae Xbox yn frand sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.

Mae tudalen Twitter y brand yn cael ei diweddaru’n gyson gyda newyddion, hysbysebion a ffotograffau pwerus. Mae'r brand hefyd yn trydar negeseuon rheolaidd sy’n cynnig adnoddau i gwsmeriaid yn ogystal ñ thrafodaethau ar bynciau cyffredin.

Yn ychwanegol at hyn, mae @XboxSupport yn gallu datrys problemau mewn ychydig funudau ar gyfer y bobl sy’n chwarae eu gemau. O ganlyniad, mae wedi cael ei gynnwys yn y Guinness World Records fel y brand mwyaf parod i ymateb ar Twitter. Mae gan Xbox dros 11.6 miliwn o ddilynwyr ac mae’n anfon dros 5,000 o ymatebion bob diwrnod.

Erbyn hyn mae llawer o gwmnïau yn cydnabod pwysigrwydd gwneud defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol a sicrhau eu bod yn rhyngweithio ac yn ymateb i’w cwsmeriaid ar-lein.