±«Óătv

Y broses hyrwyddo

Dylai busnesau ddilyn proses benodol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynnyrch.

Cam un - penderfynu beth yw nodau’r cwmni

Gallai’r nodau gynnwys codi a denu cwsmeriaid newydd.

Cam dau - gosod amcanion

Gosod targedau SMART sy’n gysylltiedig ñ’r nodau.

Acronym yw SMART sy'n sefyll am y geiriau Saesneg a ganlyn:

  • Specific (ee wyt ti wedi diffinio beth yn union yw dy nod?)
  • Measurable (ee sut mae mesur a wyt ti wedi cyflawni’r nod?)
  • Achievable (ee ydy'r nod o fewn cyrraedd?)
  • Realistig (ee ydy hi wir yn bosibl i ti gyflawni’r nod?)
  • Time bound (ee wyt ti wedi gosod cyfnod penodol o amser ar gyfer cyflawni’r nod?)

Y geiriau Cymraeg ar gyfer targedau SMART yw:

  • Penodol (specific)
  • Mesuradwy (measurable)
  • Cytunedig (achievable)
  • Realistig (realistic)
  • Amserol (time bound)
Y geiriau Penodol, Mesuradwy, Cytundedig, Realistig ac Amserol mewn blociau lliw.

Cam tri - targedu'r cwsmeriaid

Mae hyn yn golygu nodi pa gwsmeriaid penodol fydd yn cael eu targedu. Er enghraifft, beth yw oed, incwm, arferion a diddordebau’r gynulleidfa fydd yn cael ei thargedu, beth mae’n ei hoffi a beth nad yw’n ei hoffi?

Cam pedwar - ymchwilio i’r gystadleuaeth

Ymchwilio er mwyn cael gwybodaeth am gwmnïau eraill sy’n cystadlu am gwsmeriaid. Pa gyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio? Sut maen nhw’n eu defnyddio? Pa gynnwys maen nhw’n eu defnyddio? Faint o bobl sy’n hoffi, yn gwneud sylwadau ac yn rhannu eu cynnwys dros gyfnod penodol?

Cam pump - dewis y platfform gorau

Defnyddio’r wybodaeth sydd wedi cael ei chasglu am weithgareddau cwmnïau eraill a’r gynulleidfa darged. Er enghraifft, os yw’r gynulleidfa darged yn defnyddio Facebook yn bennaf, a bod gan y cwmni sy’n cystadlu am gwsmeriaid uchel, yna mae’n debyg mai Facebook fydd y sianel fwyaf addas.

Cam chwech - penderfynu ar strategaeth

Cynllunio strategaeth cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu penderfynu ar y canlynol:

  • y math o gynnwys fydd yn cael ei bostio
  • amseriad y postiadau
  • amlder y postiadau

Cam saith - cyllideb

Penderfynu ar gyllideb, a chyfrifo beth yw’r ffordd orau o’i gwario.

Cam wyth - creu tĂźm

Dyrannu tasgau i aelodau’r tüm, yna cychwyn ar y gwaith.