Pryder ynglŷn â diogelwch
Nid yw cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel bob amser, oherwydd dydy hi ddim yn bosibl dweud pwy sydd ar-lein. Efallai bydd rhywun yn cymryd arno ei fod yn rhywun arall. Gall ٰô Enw cymeriad drygionus mewn llên gwerin. Erbyn hyn mae’r enw’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy’n postio negeseuon cas ar-lein. ddigwydd hefyd, ac mae hynny’n gallu achosi llawer iawn o boen i’r sawl sy’n derbyn y sylwadau cas. Mae pobl yn gallu cael eu herlyn am drolio a chael dedfryd o garchar.
Seiberfwlio
Bwlio sy’n digwydd ar-lein yw seiberfwlio. Dyma ganlyniadau arolwg gan Bullying UK o 2016.
Mathau o seiberfwlio
Mae gwahanol fathau o seiberfwlio. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:
- Cau rhywun allan – Mae hyn yn gyffredin iawn. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn yn cael ei adael allan o negeseuon grŵp a safleoedd chwarae gemau yn fwriadol gan bobl eraill. Mae’n fath o fwlio cymdeithasol.
- Seiberstelcio – Gallai hyn fod yn anghyfreithlon, ac mae’n gwneud i rywun deimlo nad yw’n ddiogel. Mae’n digwydd pan fydd negeseuon sy’n cynnwys bygythiad o niwed neu sy’n codi braw yn cael eu hanfon dro ar ôl tro.
- Owtio a thwyllo – Mae hyn yn golygu rhannu gwybodaeth bersonol am rywun gyda phobl eraill ar-lein, a thwyllo rhywun i ddatgelu cyfrinach. Gall gwybodaeth o’r fath gynnwys ffotograffau a chlipiau fideo.
- Ffugio/dynwared – Gallai rhywun hacio cyfrif ebost neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ac anfon sylwadau cas, neu sylwadau sy’n codi cywilydd ar rywun.
- Fflamio – Mae rhai pobl yn anfon negeseuon annymunol iawn at bobl eraill yn fwriadol er mwyn ysgogi ymateb.
- Pardduo – Efallai bydd rhywun yn anfon gwybodaeth neu ffotograffau ffug at bobl eraill.
- Aflonyddu – Mae hyn yn golygu anfon negeseuon neu sylwadau cas at bobl eraill.
Gall seiberfwlio effeithio ar unrhywun a gall y canlyniadau fod yn drychinebus.