±«Óătv

Sgiliau llythrennedd ddigidol byd-eang

Mae llythrennedd ddigidol yn hanfodol yn ein cymdeithas ni heddiw.

Y rhyngrwyd

Mae nifer y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn eu cartrefi wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Mae dros 3 biliwn o bobl, sef tua 40 y cant o boblogaeth y byd, yn defnyddio dyfeisiau amrywiol i gael mynediad i’r rhyngrwyd.

Siart bar yn dangos Defnyddwyr rhyngrwyd yn y byd (biliynau) ar echelin Y a'r flwyddyn (1993 - presennol) ar echelin X. Mae nifer y defnyddwyr yn cynyddu'n raddol o 0 i dros 3 biliwn.

Cyfryngau cymdeithasol

O ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn eu cartrefi, mae nifer y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi cynyddu’n sylweddol.

Offer cyfathrebu yw cyfryngau cymdeithasol sy'n ymddangos ar y we yn hytrach na mewn cyfryngau mwy traddodiadol, fel papurau newydd a’r teledu.

Mae’r safleoedd a’r rhaglenni cyfryngau cymdeithasol poblogaidd yn amrywio. Dyma enghreifftiau o rai ohonynt.

FacebookTwitterInstagramYouTubeLinkedInWikipedia
Mae defnyddwyr yn llwytho i fyny eu lluniau, ffotograffau a fideos ac yn anfon negeseuon.Mae defnyddwyr yn postio trydariadau. Gall rhain fod yn ffotograffau, lluniau, fideos, dolenni cyswllt, a hyd at 140 nod o destun.Mae defnyddwyr yn rhannu fideos, lluniau a ffotograffau sydd wedi eu tynnu ar ffonau clyfar.Mae defnyddwyr yn rhannu fideos i bawb eu gweld.Mae hwn wedi ei gynllunio ar gyfer y gymuned fusnes, er mwyn i bobl allu ffurfio cysylltiadau proffesiynol ñ phobl eraill.Gwyddoniadur sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y cyd gan y bobl sy’n ei ddefnyddio.
FacebookMae defnyddwyr yn llwytho i fyny eu lluniau, ffotograffau a fideos ac yn anfon negeseuon.
TwitterMae defnyddwyr yn postio trydariadau. Gall rhain fod yn ffotograffau, lluniau, fideos, dolenni cyswllt, a hyd at 140 nod o destun.
InstagramMae defnyddwyr yn rhannu fideos, lluniau a ffotograffau sydd wedi eu tynnu ar ffonau clyfar.
YouTubeMae defnyddwyr yn rhannu fideos i bawb eu gweld.
LinkedInMae hwn wedi ei gynllunio ar gyfer y gymuned fusnes, er mwyn i bobl allu ffurfio cysylltiadau proffesiynol Ăą phobl eraill.
WikipediaGwyddoniadur sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y cyd gan y bobl sy’n ei ddefnyddio.

Yn îl yr amcangyfrifon mae tua 2.3 biliwn o ddefnyddwyr rhwydweithiau cymdeithasol yn bodoli ar hyd a lled y byd. Mae’r defnyddwyr hyn yn defnyddio’r safleoedd a’r rhaglenni at ddibenion personol, ac hefyd ar gyfer gwaith a busnes.