tv

Cyfryngau cymdeithasol a’r gyfraith

Mae anfanteision eraill sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r rhain yn ymwneud â materion cyfreithiol, sef:

  • posibilrwydd o enllib
  • torri deddfau hawlfraint

Posibilrwydd o enllib

Mae achosion sydd wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau yn dangos cynnydd mewn achosion yn y Deyrnas Unedig.

O safbwynt cyfreithiol, mae difenwi yn digwydd pan fydd sylw neu bostiad ar-lein yn cael ei ystyried yn un sy’n pardduo enw da rhywun "yng ngolwg aelodau synhwyrol o’r gymdeithas". Gall hyn ddigwydd pan fydd unigolion yn wynebu "casineb, gwawd neu ddirmyg" o ganlyniad i sylw rhywun arall. Mae hyn yn cynnwys unrhyw sylw sy’n cael ei ailbostio. Os bydd y llys yn cael rhywun yn euog, bydd yn rhaid iddo dalu dirwy i’r dioddefwr. Y neges bwysig yw bod angen meddwl cyn postio unrhyw beth. Gall sylw rwyt ti’n ei anfon at ffrind gael ei ailbostio gan rywun arall.

Enghraifft bywyd go iawn un

Yn 2014, aeth yr awdur JK Rowling â’r Daily Mail i’r llys. Roedd hi'n honni bod y papur newydd wedi ei difenwi hi. Roedd hi’n dadlau nad oedd sylw gan y Daily Mail am ei phrofiadau hi fel mam sengl yn wir. Cyfaddefodd cyhoeddwr y papur fod yr honiadau yn “gwbl anghywir ac na ellid eu cyfiawnhau”. Cyhoeddodd ymddiheuriad yn y papur a chytunodd i dalu iawndal i’r awdures.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Yn nhalaith New South Wales yn Awstralia, ysgrifennodd disgybl sylwadau am un o’i athrawon ar Twitter a Facebook. Penderfynodd llys barn fod ei sylwadau ar Twitter yn rhai difenwol a chafodd orchymyn i dalu iawndal o $105,000 AUD (dros £64,000) i’r athrawes. Dywedodd y barnwr fod y sylwadau wedi cael effaith ddifrifol ar yr athrawes boblogaidd.

Gwna’n siŵr dy fod yn gwybod beth yw’r gyfraith, a pha fath o sylwadau allai dy gael i helynt (Cynnwys Saesneg)

Deddfau hawlfraint

Hawl gyfreithiol yw hawlfraint. Mae’n rhoi hawliau unigryw i'r sawl sydd wedi creu gwaith gwreiddiol i ddosbarthu neu ailddefnyddio'r gwaith hwnnw.

Er hyn, mae mwy a mwy o bobl yn rhannu lluniau a fideos drwy eu postio ar y rhyngrwyd, ac mewn rhai achosion maent yn torri deddfau hawlfraint. Mae hyn oherwydd bod hawlfraint yn rhoi rheolaeth lwyr i’r perchennog dros gyhoeddi, dosbarthu ac addasu deunydd.

Gall deddfau hawlfraint ddiogelu darnau amrywiol o waith, er enghraifft:

  • gwaith ysgrifenedig
  • cerddoriaeth
  • clipiau ffilm – o ffilmiau mawr i rywbeth sy’n cael ei ffilmio ar ffôn symudol
  • delweddau, gan gynnwys logos, paentiadau a ffotograffau
  • gwefannau a thudalennau gwe

Yr unig adeg pan mae’n gyfreithlon i ti bostio rhywbeth ar-lein nad yw wedi cael ei greu gen ti, yw pan fyddi di wedi cael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint.

Bydda'n ymwybodol o beth sy’n ddiogel i ti ei roi ar y rhyngrwyd (Cynnwys Saesneg)