±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Mawrth y gwrthod a'r gwerthu

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

1967 - 1979 Mawrth Y Gwrthod A'r Gwerthu

'Roedd Capel Celyn dan y d^wr a mudandod yn Aberfan. Bedd diwylliant a chamwedd diwydiant: symbolaui byw o gam-lywodraethu a cham-reoli. 'Roedd Cymru yn prysur golli ei thir a'i thraddodiadau. Yn hwyr neu hwyrach, byddai'n rhaid i bryder droi'n brotest. 'Roedd y Gymraeg bellach yn fater politicaidd. 'Roedd pryder am ei safle israddol ac am ei dyfodol. Brwydrodd rhai o aelodau seneddol Cymru i gael Mesur Iaith drwy'r Senedd, er mwyn sefydlu'r egwyddor fod y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd.

Parhaodd y protestiadau, nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop, America a'r gwledydd comiwnyddol. Lledaenodd fflam y Chwith adweithiol newydd drwy Ewrop, protestiai Americanwyr ifanc yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, a phrotestiai'r duon yn erbyn gormes y gwynion. Dyma gyfnod y delfrydau cyn cyrraedd hunanoldeb yr wythdegau, y cyfnod pan oedd yr ifanc yn poeni am bethau'r byd.

Y golomen yn erbyn yr eryr...

 

Radio a Teledu

 
 

Y Golomen yn erbyn yr eryr

Protest y golomen yn erbyn yr eryr oedd hon, mewn gwirionedd; protest dros hawliau lleiafrifoedd y byd. 'Doedd y chwyldro ddim yn boliticaidd i gyd. Rhan o'r un gwrthryfel oedd y chwyldro rhyw. Hon oedd cenhedlaeth y bilsen a'r ddeddf erthylu. Rhyddhawyd y fenyw rhag caethiwed beichiogrwydd a magu teulu, fel y gallai gystadlu â dynion ymhob maes. Mynnai'r hoywon eu hawl i fyw mewn cymdeithas, heb ofni rhagfarn na sarhad, a dathlodd y fenyw ei rhyddid newydd.

Crisialwyd yr holl gyffro anniddig hwn drwy'r byd yn y gerdd ' I'r Anniddig', un o gerddi'r dilyniant a enillodd y Goron i Dafydd Rowlands yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint ym mlwyddyn yr Arwisgo. O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.

Daeth y gân brotest a chwlt yr ifanc i mewn i'r Eisteddfod. 'Roedd caneuon Maes B a phabell roc Eisteddfod Y Bala ym 1967 yn boddi'r her unawd o'r pafiliwn. Bellach 'roedd ieuenctid Cymru'n cynnal eu 'Steddfod eu hunain.

Arwisgo...



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy