±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Mawrth y gwrthod a'r gwerthu

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Arwisgo

Ond 'roedd tannau'r gitarau yn dynn gan densiwn. Daeth yr Arwisgo â thyndra newydd i Gymru. Holltwyd y wlad yn ddwy. I lawer, ymgais ar ran
Llywodraeth Loegr i ddiffodd fflam y Cymreictod newydd oedd yr Arwisgo.

Cadarnhawyd eu hofnau pan ddedfrydwyd chwe aelod o Fyddin Rhyddid Cymru i garchar ar ddiwrnod y seremoni. Dyma rybudd pendant i'r rhai a oedd yn gyfrifol am y drefn. Pan aeth Gorsedd y Beirdd i blygu glin gerbron Gorsedd Prydain, 'doedd dim
llawer o heddwch yng Nghymru. Yng ngolwg rhai, 'roedd taeogrwydd swyddogion yr Orsedd yn warth.

Cymerodd Saunders Lewis ei ran yn y brotest trwy wthio'r cwch i'r d^wr yn y rhaglen deledu Drych ym 1968: ' 'Rydw i'n credu'n bersonol fod trais gofalus, ystyriol, cyhoeddus yn wir angenrheidiol yn aml i fudiadau cenedlaethol ... 'rydw i'n credu bod unrhyw ddull sydd yn rhwystro'r treisio anghyfrifol yma gan gorfforaethau yn Lloegr ar ddaear Cymru yn gwbwl gyfiawn'.

Cyfiawn neu beidio, cyrhaeddodd y trais ei uchafbwynt gyda lladd dau aelod o Fudiad Amddiffyn Cymru, pan daniodd eu dyfais ffrwydrol yn Abergele ar fore'r Arwisgo. Lleddfwyd yr ofn fod cenedlaetholwyr yn troi at ddulliau trais yn fuan ar ôl yr Arwisgo. Daeth y bomio i ben. Pwysleisiodd Cymdeithas yr Iaith unwaith eto mai mudiad di-drais oedd o. Daeth cyfnod o wir wrthryfel i ben.

Ond gyda degawd y dicter y tu ôl iddi, sut y byddai Cymru yn wynebu'r saithdegau ansicr?

Y Saithdegau...

 

Radio a Teledu

 
 

Y Saithdegau

'Roedd etholiad 1970 yn siom i'r Blaid Lafur ac i'r cenedlaetholwyr. Er i Blaid Cymru gystadlu am yr holl seddau am y tro cyntaf erioed, ni lwyddodd i ennill un. Collodd Gwynfor Evans ei sedd i Gwynoro Jones yng Nghaerfyrddin, ac etholwyd Llywodraeth Dorïaidd newydd dan arweiniad Ted Heath. Canolbwyntiodd Cymdeithas yr Iaith ei hegnïon ar gael arwyddion ffyrdd dwyieithog. Dechreuodd ddinistrio arwyddion yn hytrach na'u paentio. Os oedd rhai yn coli'r ffordd mewn Cymru ddi-arwyddion, 'roedd Cymdeithas yr Iaith yn gwybod yn iawn i ba gyfeiriad 'roedd hi'n mynd. Dathlodd Dafydd Rowlands frwdfrydedd y genhedlaeth ifanc o brotestwyr yn ei bryddest fuddugol 'Dadeni' yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd ym 1972.

Nid chwyldro'r Chwith na Chwyldro Cymreictod oedd yr unig chwyldroadau i weddnewid cymdeithas yn y chwedegau a'r saithdegau. 'Roedd y chwyldro technolegol yn camu ymlaen. Byddai'n rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro newydd hwn, neu aros yn ei hunfan a diflannu'n ôl i niwl hanes yn y pen draw. Pan laniodd gofodwr Americanaidd ar y lleuad ym mis Gorffennaf 1969 'roedd cyfnod wedi dod i ben a chyfnod arall ar fin cychwyn. Cam bychan i ddyn, ond cam enfawr i'r ddynoliaeth. A 'doedd y ddynoliaeth bellach ddim yn ddibynnol ar gyfathrach rhwng g^wr a merch i sicrhau ei pharhad. 'Roedd cenhedlu o brofdiwb yn awr yn bosibl. Dathlodd Emrys Roberts gampau'r gwyddonydd yn ei awdl fuddgol, 'Y Gwyddonydd', Eisteddfod Y Bala 1967.

A thân ei athrylith o
Eilwaith sy'n fflam o wylio
Ei goncwest yn y testiwb -
Y di-groth dw, gwyrth ei diwb.

I gell wy gall lywio had
Yn lân arloesol uniad
I roi bod i embryo byw
Heb boen ar wyneb benyw.

'Roedd llawer wedi digwydd ers i J. J. Williams gyfareddu'r Cymru llengar ym 1906 gydag awdl 'Y Lloer'. 'Roedd y cynnydd aruthrol yng nghwrs y ganrif bellach wedi chwalu'r rhith a'r ramant. 'Doedd dim lloer bellach, dim ond lleuad. Yn y Dilyniant o Gerddi a enillodd Goron Eisteddfod Y Fflint i Dafydd Rowlands mae'n erfyn, yn y gerdd 'Y Lleuad', ar ddyn i beidio â sathru ar y sêr.

Teledu a Tai Hâf...



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy