±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1967 - 1979

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod          Bro Myrddin

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • 81% o lowyr yn pleidleisio dros streic genedlaethol ym Mis Mawrth a'r Prif Weinidog, Ted Heath, yn galw Etholiad Cyffredinol i benderfynu pwy sydd yn rheoli'r wlad, 'y Llywodraeth ynteu'r glowyr'.
    Y Toriaid yn colli a Harold Wilson yn ôl fel Prif Weinidog.
  • Gwynoro Jones o'r Blaid Lafur yn trechu Gwynfor Evans o dair pleidlais yn etholaeth Caerfyrddin.
    Dafydd Wigley, Plaid Cymru, yn trechu Goronwy Roberts, Llafur, yng Nghaernarfon.
  • Aelodau Seneddol yn cael yr hawl i dyngu eu llw yn Saesneg ac yn Gymraeg, ond nid yn Gymraeg yn unig. 11 o'r 36 yn manteisio ar y cyfle.
  • John Morris yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
    Y glowyr yn rhoi'r gorau i'w streic a chael 35% o godiad cyflog.
  • Cyhaliwyd ail Etholiad Cyffredinol ym mis Hydref a Llafur yn ennill eto. Y tro hwn Gwynfor Evans yn ennill Caerfyrddin yn ol i Blaid Cymru. Dafydd Wigley yn cadw ei sedd, a Dafydd Elis Thomas yn dod yn drydydd Aelod Seneddol Plaid Cymru trwy drechu Wil Edwards, Llafur, ym Meirionnydd.
  • Newid Llywodraeth Leol: dod ag wyth cyngor sir i Gymru yn lle'r tri ar ddeg a fu, a ffurfio 37 cyngor dosbarth newydd.
  • Richard Nixon yn cael ei orfodi i ymddiswyddo wedi achos Watergate, Gerald Ford yn ei olynu yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
  • Darllediad cyntaf Ceefax ar y ±«Óãtv.
  • Agor gorsaf radio annibynnol gyntaf Cymru, Sain Abertawe.
  • Agor canolfan dechnoleg amgen Machynlleth.
    Cau gwaith glo Gresford.
  • Georges Pompidou, U-Thant, Duke Ellington, Dr Jacob Bronowski, Eric Linklater a Cornelius Ryan yn marw.

Archdderwydd               Brinli

Y Gadair

Testun. Awdl: ' Y Dewin'
Enillydd: Moses Glyn Jones
Beirniaid: Geraint Bowen, J. Eirian Davies, Dic Jones
Cerddi eraill: Donald Evans, Tom Parry-Jones

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a Sylwadau Alan Llwyd

Awdl ragorol am y ddeuoliaeth ym myd natur, am y frwydr barhaus rhwng goleuni a thywyllwch. Duw yw'r dewin yn yr awdl.

Y Goron

Testun. Pryddest: ' Tân'
Enillydd: W. R. P. George
Beirniaid: T. Llew Jones, T. Glynne Davies, Gwyn Erfyl
Cerddi eraill: Gosodwyd pryddest John Llewelyn Roberts yn uchel yn y gystadleuaeth.

Ymateb a Sylwadau Alan Llwyd

Pryddest astrus ond pryddest Ì llawer o gryfder ynddi hefyd.

Y Fedal Ryddiaith

Cronicl o anturiaeth ysbrydol neu gymdeithasol ar ffurf llythyrau personol
Enillydd: Dafydd Ifans (Eira Gwyn yn Salmon)

 
Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: Eigra Lewis Roberts

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy