±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1967 - 1979

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod              Y Barri

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Blwyddyn y brotest fawr, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, protest y Chwith, protest y duon, a phrotest heddwch drwy Gymru, Ewrop a'r byd. Yr ysbrydoliaeth i nifer o'r ifainc oedd heddwch a chariad, breuddwydion a oedd yn aml wedi eu hysbrydoli gan gyffuriau.
  • Llofruddio Martin Luther King.
  • Brwydro ffyrnig yn Fietnam. Dyma'r flwyddyn y gwelwyd swyddog o Dde Fietnam yn saethu dyn a amheuwyd o fod yn Vietcong yn ei ben.
  • Enoch Powell yn traddodi ei araith hiliol 'rivers of blood'.
  • Cyflwyno arian degol.
  • Bobby Kennedy yn cael ei saethu gan Sirhan Sirhan.
  • Milwyr a thanciau o Rwsia yn goresgyn Prag.
  • Ethol Richard Nixon yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
  • Tommie Smith a John Carlos yn rhoi cyfarchiad 'black power' wrth dderbyn eu medalau yn y Gemau Olympaidd.
  • Is-etholiad Caerffili a Phlaid Cymru yn dod o fewn 1,874 i bleidlais Llafur.
  • Agor gorsaf niwcliar Trawsfynydd.
  • Yr Ariandy Brenhinol yn agor yn Llantrisant.
  • HTV yn gyfrifol am deledu annibynnol yng Nghymru yn lle TWW.
  • George Thomas yn olynu Cledwyn Hughes fel Ysgrifennydd Cymru.
  • Pedair plaid wleidyddol Cymru yn derbyn Adroddiad Gittins y dylai pob disgybl cynradd yng Nghymru gael y siawns i ddysgu Cymraeg.
  • Agor cronfa Clywedog a chychwyn adeiladu cronfa Llyn Brianne.
  • Howard Winstone yn ennill pencampwriaeth pwysau plu y byd.
  • Gary Sobers yn taro chwe chwech mewn un pelawd oddi ar fowlio Malcolm Nash yn Abertawe.
  • Tony Hancock, Arthur Horner ac Arglwydd Kemsey yn marw.

Archdderwydd               Gwyndaf

Y Gadair

Testun: 'Awdl Foliant i'r Morwr'
Enillydd: R. Bryn Williams
Beirniaid: Emrys Edwards, J. Eirian Davies, Gwilym R. Tilsley
Cerddi eraill: Tom Parry-Jones, Emrys Roberts

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl ddof, draddodiadol braidd, nad yw'n cymharu â 'Patagonia'.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Meini'
Enillydd: L. Haydn Lewis
Beirniaid: Euros Bowen, Waldo Williams, Thomas Parry
Cerddi eraill: Cystadleuaeth hanesyddol ac unigryw. 'Roedd Euros Bowen yn dymuno coroni Dafydd Rowlands, Waldo Williams o blaid L. Haydn Lewis a Thomas Parry yn ffafrio pryddest H. Llewelyn Williams. Bu raid i Alun Llywelyn-Williams ddyddio rhwng y tri, ac ochrodd â Waldo.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Er bod teimladau dwys ac ingol y tu ôl i bryddest fuddugol L. Haydn Lewis, pryddest eiriog a chwithig ei chystrawen ydyw. Lluniodd y bryddest er cof am ei ferch, Carol.

Y Fedal Ryddiaith

Saith Stori Fer
Enillydd: Eigra Lewis Roberts (Y Drych Creulon)
 
Tlws y Ddrama

Drama hir wreiddiol 
Enillydd: £75 o'r wobr i Ken Etheridge

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy