±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1967 - 1979

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod     Bro Dwyfor (Cricieth)

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Ethol Margaret Thatcher yn arweinydd y Toriaid.
  • Glowyr yn derbyn codiad cyflog o 35%.
  • Pleidlais yn penderfynu y dylai Prydain aros yn y Farchnad Gyffredin.
  • Cymru yn pleidleisio o ddau i un dros aros yn y Farchnad.
  • Darlledu gweithgareddau'r T^y Cyffredin ar y radio am y tro cyntaf.
  • Gweithredoedd y 'killing fields', Pol Pot a'r Khmer Rouge yn dechrau dod i'r amlwg.
  • Franco yn dienyddio pump aelod o fudiad ETA o Wlad y Basg, ond yn marw ddau fis yn ddiweddarach a'r Brenin Juan Carlos yn dod yn ben ar y Llywodraeth, hyn yn arwain at ailsefydlu democratiaeth yn Sbaen.
  • Agor Pont Cleddau.
  • Sefydlu Awdurdod Tir Cymru i brynu tir i'w ddatblygu.
  • Rhagor o ddatganoli wrth i fasnach a diwydiant gael eu trosglwyddo i ofal y Swyddfa Gymreig.
  • Nifer y glofeydd yng Nghymru wedi gostwng i 44.
  • John Cleese yn creu Fawlty Towers.
  • James Griffiths, Syr T. H. Parry-Williams, yr Athro. A. H. Dodd, Eammon de Valera, Shostakovitch, Barbara Hepworth, Haile Selassie ac Aristotle Onassis yn marw.

Archdderwydd               Brinli

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Afon'
Enillydd: Gerallt Lloyd Owen
Beirniaid: Emrys Roberts, Gwyndaf, Gwilym R. Tilsley
Cerddi eraill: Tom Parry-Jones, Donald Evans

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a Sylwadau Alan Llwyd

Awdl delynegol ei naws, a rhai cwpledi ac englynion syfrdanol ynddi o ran crefft a chynnwys. Daeth y cwpled agoriadol yn enwog iawn.

Y Goron

Testun: Pryddest neu Ddilyniant o gerddi: 'Pridd'
Enillydd: Elwyn Roberts
Beirniaid: Gwyn Thomas, Dilys Cadwaladr, L. Haydn Lewis
Cerddi eraill: Dilyniant gan Donald Evans a ffafriai Gwyn Thomas.

Ymateb a Sylwadau Alan Llwyd

Dilyniant gwan ac arwynebol yw'r dilyniant buddugol. Gan Donald Evans yr oedd y dilyniant gorau.

Y Fedal Ryddiaith

Nofel hanesyddol
Enillydd: Neb yn deilwng

 
Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: William R. Lewis, ond rhoddwyd £50 o'r £150 i Michael Povey a £25 i Bernard Evans. Aeth gweddill y wobr ariannol, ynghyd â'r Tlws, i William R. Lewis

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy