±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1967 - 1979

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod        Rhydaman a'r Cylch

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Protestio am ryfel Fietnam yn parhau.
  • Ffliw Hong Kong yn lladd 2,850 ym Mhrydain mewn wythnos.
  • Y Torôaid yn ennill yr Etholiad Cyffredinol a Ted Heath yn dod yn Brif Weinidog.
  • Peter Thomas yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
    Gwynoro Jones, Llafur, yn cipio etholaeth Caerfyrddin oddi ar Gwynfor Evans.
  • Enwebu Saunders Lewis am wobr lenyddiaeth Nobel.
  • Carcharu'r cyn-ringyll byddin, John Jenkins, am 10 mlynedd am achosi ffrwydradau drwy Gymru yn y 60au.
  • Ffurfio'r mudiad 'Adfer'.
  • Methodistiaid yn caniatâu i ferched fod yn weinidogion.
  • Brwydro rhwng milwyr Prydeinig a'r IRA yn Belfast.
    Darganfod olew ym Môr y Gogledd.
  • Agor Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg 185 milltir o Lanrhath i Aberteifi.
  • Y gwasanaeth bws troli olaf yng Nghymru yn dod i ben yng Nghaerdydd.
  • Fandaliaid yn llosgi Pont Britannia ar draws y Fenai.
  • Pont newydd Cleddau yn disgyn gan ladd pedwar o weithwyr.
  • DVLA yn agor yn Abertawe, a'r Swyddfa Ystadegau Ganolog yn agor yng Nghasnewydd.
  • Lieutenant William Carey yn pledio'n ddieuog o fod yn gyfrifol am gyflafan My Lai, Fietnam, pan laddwyd 567 o ddynion, merched a phlant.
  • Germaine Greer yn cyhoeddi The Female Eunuch.
  • Pobl ifanc yn dod i oed llawn yn 18 yn lle 21.
  • Y Beatles yn gwahanu.
  • Syr Ifan ab Owen Edwards, Jack Jones, Ian MacLeod, Jimi Hendrix, Nasser, Janis Joplin, De Gaulle, Bertrand Russell ac E. M. Forster yn marw.

Archdderwydd               Gwilym R. Tilsley

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Y Twrch Trwyth'
Enillydd: Tommy Evans
Beirniaid: Geraint Bowen, Gwyndaf, Brinley Richards
Cerddi eraill: Alan Llwyd, Donald Evans

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Gofynnwyd am awdl 'mewn cynghanedd gyflawn' yn hytrach nag ar y mesurau traddodiadol arferol. Manteisiodd rhai o'r cystadleuwyr ar ofynion penagored y gystadleuaeth ac anfon cerddi vers libre cynganeddol i'r gystadleuaeth, gan gynnwys y bardd buddugol. 'Roedd y gerdd fuddugol wedi ei chynganeddu'n fedrus, a llwyddodd y bardd i adrodd yr hen stori am y Twrch Trwyth yn chwedl Culhwch ac Olwen yn rhwydd ac yn gyfareddol, ond ni chafwyd unrhyw olwg newydd ar y chwedl, nac ar y Twrch ei hun fel symbol.

Y Goron

Testun: Dilyniant o gerddi digynghanedd
Enillydd: Bryan Martin Davies ('Darluniau ar Gynfas')
Beirniaid: Euros Bowen, J. Eirian Davies, Gwilym R. Jones
Cerddi eraill: Yn uchel iawn yn y gystadleuaeth, ac yn ail gan Gwilym R. Jones, yr oedd Moses Glyn Jones, Prifardd y Gadair, 1974.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dilyniant crefftus am fro mebyd y bardd.

Y Fedal Ryddiaith

Gwaith creadigol ar ffurf dyddiadur neu lythyrau neu'r ddau
Enillydd: Neb yn deilwng
 
Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: Neb yn deilwng o'r Tlws, ond rhannwyd y wobr o £100 yn gyfartal rhwng Gwilym T. Hughes, Urien Wiliam, Jennet Eirlys Thomas a T. James Jones

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy