±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awelon Croes

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

1900-1913 Awelon Croes

Gwawriodd y ganrif newydd pan oedd oes Victoria yn machlud. 'Roedd y rhyfel am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym. 'Roedd y papurau newydd, gan gynnwys y wasg Gymreig, yn cynyddu mwy a mwy yn eu poblogrwydd. Hon oedd oes aur newyddiaduriaeth.

Y Torîaid a enillodd Etholiad Cyffredinol troad y ganrif, ond cadarnle'r Blaid Ryddfrydol oedd Cymru. Un o brif wleidyddion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru oedd David Lloyd George, yr Aelod Seneddol dros Fwrdeistref Caernarfon. Erbyn troad y ganrif 'roedd y gwleidydd ifanc disglair hwn wedi bod yn areithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd, ac 'roedd deugain mlynedd arall o areithio o'i flaen. Diwrnod Lloyd George ar ddydd Iau'r cadeirio oedd un o uchelfannau pob eisteddfod. Er mai'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr oedd prif bleidiau Prydain, 'roedd pethau'n dechrau newid.

 

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

1900 1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909 1910 1911 1912 1913
'Roedd gweithwyr diwydiannol y De a'r Gogledd wedi creu undebau i amddiffyn eu hawliau cyn troad y ganrif. Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yng Nghasnewydd ddeng mlynedd cyn troad y ganrif. Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw. Parhaodd y streic am dair blynedd chwerw a rhwystredig. Yn yr un flwyddyn aeth rhai o weithwyr Cwmni Rheilffordd Cwm Taf ar streic. Erlynwyd yr undeb gan reolwyr y cwmni a bu'n rhaid iddo dalu'n ddrud am gefnogi'r streicwyr. 'Roedd yn rhaid sefydlu plaid wleidyddol newydd i amddiffyn yr Undebau. Y Blaid Lafur oedd honno. Etholwyd Keir Hardie yn aelod seneddol cyntaf y blaid newydd yng Nghymru ym Merthyr Tudful ym 1900. 'Roedd y gweithwyr yn dechrau hawlio gwell amodau gwaith, ac 'roedd y gyfundrefn addysg yn gwella.

ymlaen...



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy