±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Cwmni Drama Cadwgan, Treorci, 1925 Cwmni Drama Cadwgan, Treorci, 1925
Tachwedd 2008
Llun o gwmni drama Cadwgan, Treorci a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth y ddrama fer yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925.

Yn ddiweddar, derbyniodd Y Gloran ddau lun diddorol gan Mrs Eiryl Evans, Ton Pentre, o'r cwmni drama uchod. Aelodau o gapel Hermon, Treorci oedd y bobl a ffurfiodd y cwmni a buon nhw wrthi yn cystadlu ac yn perfformio dramâu yma yn y Rhondda ac ymhellach i ffwrdd tan ddiwedd y pumdegau.

Y ddrama a berfformiwyd ym Mhwllheli oedd 'Ffroes', sef hanes par priod oedd yn dathlu pen-blwydd aur eu priodas ac yn dymuno cael ond un anrheg - set o lestri glas patrwm helyg (willow pattern).

Cynilodd y plant ddigon o arian i brynu set i'w rhieni, ond gan eu bod mor dlawd, erbyn i'r diwrnod mawr gyrraedd, doedden nhw ddim yn gallu fforddio dim i'w fwyta ond ffroes - gair y cymoedd am bancos, crempog neu pancakes!

Un sy'n cofio holl gyffro ennill y gystadleuaeth yw Mrs May Jenkins, Heol Glyncoli, Treorci sydd erbyn hyn yn 95 oed. Yn wir, mae ganddi'r union set o lestri a ddefnyddiwyd ar y llwyfan ym Mhwllheli yn ei chegin lle maen nhw'n cael lle o anrhydedd ar silffoedd amlwg.

Ei thad, Daniel Evans oedd un o bileri'r cwmni a chapel Hermon o ran hynny. Yn fardd gwlad ac emynydd, roedd yn frwd iawn yn hyrwyddo'r ddrama Gymraeg yn yr ardal yn hanner cyntaf y ganrif a aeth heibio.

Yn y llun gwelir aelodau'r cwmni sef. Rhes gefn o'r chwith: Daniel Evans (Iau - sef tad Danny Evans, TÅ· Pencelli, Treorci). Olwen Jones (gwraig Mel Jones y Bwtsiwr gynt), IsIwyn Evans (Teras Tynybedw). Rhes flaen: Esther Ann Evans (Hilside, Y Pentre), Daniel Evans (tad May Jenkins), Jane Davies (Myrtle Hill) a Dafydd Lewis (Y Stryd Fawr - cynhyrchydd y cwmni).

Yn Eisteddfod Pwllheli, cafodd cwmnïau o'r Rhondda gryn lwyddiant yn y cystadlaethau drama gan i Gwmni Drama'r Maerdy gipio'r brif wobr am berfformio'r ddrama hir - prawf, oes oedd eisiau o nerth y mudiad drama yn y Rhondda yn y cyfnod.

Diolch i Mrs Eiryl Evans am anfon y lluniau atom ac am roi inni gyfle i olrhain yr hanes diddorol gyda chymorth May Jenkins.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý