±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Alun Pugh Cyfweliad y mis: Alun Pugh
Mawrth / Ebrill 2006
Alun Pugh yw'r Gweinidog yn y Cynulliad sy'n gyfrifol am y celfyddydau a'r iaith Gymraeg. Mae'n ymateb i holiadur Y Gloran y mis hwn.
Pryd a ble y cawsoch chi eich geni?
Cefais fy ngeni yn Ysbyty Llwynypia ar 9 Mehefin, 1955.

Beth oedd cefndir eich teulu? O ble y daethant i Gwm Rhondda?
Roedd fy nheulu cyfan yn gweithio yn y pyllau glo. Daethant i'r Rhondda o Aberystwyth. Roedd fy nhad yn gwei¬thio ym Mhwll Glo y Cambrian.

Ble cawsoch eich addysg?
Mynychais Ysgol Gynradd Cwm Clydach ac Ysgol Ramadeg Tonypandy. Eich cartref a'ch teulu ar hyn o bryd? Rydw i'n byw ym mhentre Gellifor ger Rhuthun ac mae fy mhlant yn gweithio yng ngogledd Cymru.

Ydych chi'n dod yn ôl i'r Rhondda weithiau?
Mae fy mam yn byw yng Nghwm Clydach ac rydw i'n ymweld â hi yn rheolaidd.

Pam a sut yr aethoch chi ati i ddysgu Cymraeg?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg drwy dreulio wythnos yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn a oedd yn hwb dda i fy ymdrech. Rydw i'n cael gwersi yn achlysurol ond gan amlaf, dw i'n dysgu wrth weithio mewn awyrgylch dwyieithog ac yn y dre ble rwy'n byw.

Pryd a pham y dechreuoch chi ymddid¬dori mewn gwleidyddi¬aeth?
Ymunais â'r Blaid Lafur yn 19 blwydd oed. Cefais fy ethol yn Gadeirydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg. Roeddwn i'n benderfynol o wneud Cymru yn gymdeithas deg - ac mae hynny' n dal yn wir!

Pa fath o lyfrau ydych chi'n hoffi eu darllen?
Llyfrau teithio. Rydyn ni' n byw mewn byd hynod o amrywiol a did¬dorol a dw i' n mwynhau profi diwylliannau gwa¬hanol.

Pa ganghennau eraill o'r celfyddydau sydd o ddiddordeb i chi?
Cerddoriaeth. Rydw i'n dysgu chwarae'r gitâr bas ar y funud!

Beth yw eich gobeithion mewn perthynas â'r celfyddydau yng Nghymru?
Gwneud yn siŵr fod pob cymuned yng Nghymru yn elwa o'r buddsoddiad enfawr o arian cyhoed¬dus yn y celfyddydau.

Beth ydych chi'n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Mynydda, yn enwedig ym mynyddoedd Eryri.

Ydych chi' n teimlo' n hyderus ynglŷn â dyfodol y Gymraeg?
Ydw - dw i'n hapus i weld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n siarad yr iaith mewn ardaloedd fel y Cymoedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý