±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Rosa Baik Llwyddiant merch o Gwmparc
Rhagfyr 2006
Mae Rosa Baik, Heol y Parc, wedi ei dewis yn un o dri o Brydain i ymweld â Kalmykia i ymchwilio i ddulliau o warchod math prin o Antelope, y Saiga.
Un o weriniaethau'r hen Undeb Sofietaidd yw Kalmykia, ac mae'n mynd yno o dan nawdd Menter Darwin sydd wedi rhoi arian i Goleg Imperial, Llundain i wneud y gwaith ymchwil.

Ers i'r Undeb Sofietaidd chwalu yn y nawdegau gwelwyd lleihad o 95% yn niferoedd y Saiga. Gynt bu llywodraeth Rwsia yn gwarchod yr anifail hwn sy' n mudo ar draws y Steppe mor bell â Tseina. Byddai gwarchodwyr yn teithio gyda nhw ar eu hynt, ond pan beidiodd y gwasanaeth hwn, aethant yn brae i helwyr oedd yn eu lladd am eu cig, eu cyrn ac am rannau o'u cyrff a ddefnyddir ym meddyginiaethau traddodiadol Tseina. Bellach, does ond 50,000 ar ôl ac mae'r Saiga ar restr o anifeiliaid sydd mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.

Gwneud ffilm
Mae Rosa Baik, 29 oed, yn ogystal â bod yn sŵolegydd o ran hyfforddiant hefyd yn wneuthurwr ffilmiau. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Leeds, enillodd radd uwch ym Mhrifysgol Casnewydd ac roedd ei ffilm am ferlod ar Fannau Brycheiniog yn un o bedair a enwebwyd ar gyfer Wildscreen 2002 gan y ±«Óãtv.

Roedd y tair ffilm arall gan gystadleuwyr o Norwy, India a'r Unol Daleithiau oedd yn ymgiprys am wobr ±«Óãtv Newcomer. Bydd Rosa yn gobeithio gwneud ffilm am y cynllun yn Kalmykia a bydd tri o'r wlad honno yn ymweld â Phrydain yn rhan o'r prosiect.

Yn ddiweddar, cafodd hi newyddion da y bydd Cymdeithas Edward Llwyd, cymdeithas naturiaethwyr Cymru, yn cyfrannu £300 tuag at gostau'r ffilmio a bydd Rosa yn cael cyfle i arddangos ei gwaith yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas yn 2007 neu 2008.

Dymunwn yn dda iddi ar ei hantur ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor ganddi am y daith gyffrous hon.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý