±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Frances Thomas Gwobr i awdures blant
Mehefin 2008
Am y pedwerydd tro mae'r awdures Frances Thomas, sydd â'i gwreiddiau yn Nhreorci, wedi ennill gwobr Tir na n-Og.

Dyfernir gwobr Tir na n-Og bob blwyddyn i'r awduron am y cyfrolau gorau ar gyfer plant a gyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg. Enillydd y wobr Saesneg eleni, a hynny am y pedwerydd tro oedd Frances Thomas am ei nofel 'Finding Minerfa'.

Trwy garedigrwydd un o gyn-athrawon Ysgol Ynyswen, Gwyn Morgan, daethom i wybod am gysylltiadau'r awdures â Threorci. Ganed ei thad David Elwyn Thomas yn 1906 yn fab i'r bardd Dewi Glan Rhondda oedd hefyd yn David Thomas.

Mae'n debyg bod y teulu'n byw yn Stryd Stuart i ddechrau ond y cof cliriaf sydd gan Frances yw mynd i Dŷ Rhos yn Heol Glyncoli lle roedd ei modryb, Gwladys Thomas yn byw. Roedd hithau'n brifathrawes ar ysgol gynradd tra bod modryb arall, Dorothy, yn briod â Glyn Richards, y fferyllydd yn Nhreherbert. Hyd y gwyddom, does neb o'r teulu ar ôl yn yr ardal bellach.

Llundain

Ers rhai blynyddoedd, bu Frances Thomas a aned yn Aberdâr yn byw yn Sir Faesyfed, heb fod yn bell o Lanfair ym Muallt ond er iddi gad ei geni yn Aberdâr, a byw wedyn yn Llundain am rai blynyddoedd cyn symud adre' i Gymru. Cafodd ei haddysg gynnar mewn ysgol gwfaint ac wedyn ym Mhrifysgol Llundain.

Am gyfnod hir, bu'n dysgu plant dislecsig yn y ddinas. Hanesydd yw ei gŵr ac mae ganddynt ddwy ferch ac un wyres. Yn ei hamser hamdden mae Frances yn mwynhau arlunio, cerdded a garddio. O dro i dro bydd yn cael cyfle i deithio ac mae'n arbennig o hoff o'r Eidal ac India.

Ysgrifennu

Cyhoeddwyd ei lIyfr cyntaf, 'The Blindfold Track' yn 1980 a seiliwyd stori arall o'i heiddo 'Who stole the bloater' ar hanesyn a glywodd gan ei thad am ardal Treorci. Dywed Frances bod syniadau yn gallu eich taro ym mhobman.

Teithio trwy Wroxeter yr oedd hi a meddwl sut fyddai hi tasai dinas yno o hyd. Dyna hedyn 'Finding Minerva', ei nofel arobryn ddiweddaraf. Bydd Frances yn eistedd o flaen ei chyfrifiadur mewn ystafell ar y llofft a chael bod syllu ar y sgrîn a'r wal yn well nag edrych mas drwy'r ffenest lle mae gormod o bethau i dynnu ei sylw! Er bod rhai pynciau'n drist ac yn ddrwg weithiau, mae llawer hefyd sy'n dod â gwên i'r wyneb a'r peth gorau i awdur ei wneud yw cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý