±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Perygl Colli Tir Agored
Hydref 2005
Cyngor Cynon Taf yn argymell gwerthu'r darn o dir agored rhwng Prospect Place, Heol Gethin a Heol Cadwgan, Treorci ar gyfer codi tai.

Cafodd y cynghorwyr lleol ac aelodau Pwyllgor Adfywhau Treorci, Cwmparc ac Ynyswen wybod gan bennaeth Gwasanaethau Eiddo Rhondda Cynon Taf bod swyddogion y Cyngor yn argymell gwerthu'r darn o dir agored rhwng Prospect Place, Heol Gethin a Heol Cadwgan, Treorci ar gyfer codi tai.

Safle Diwydiannol Safle hen lefel ac adferwyd nifer o flynyddoedd yn ôl yw hwn ac ers llawer o flynyddoedd fe'i defnyddiwyd gan blant yr ardal ar gyfer chwarae. Ar un adeg, bwriedid iddo fod yn faes chwarae i Ysgol Gynradd Treorci, ond oherwydd costau cynnal ac adfer y tir doedd hi ddim yn bosib i gorff llywodraethol yr ysgol i ysgwyddo'r cyfrifoldeb.

Gan fod yr Archwilydd Dosbarth (District Auditor) yn pwyso ar bob cyngor i werthu unrhyw dir diangen, bygythiwyd ei werthu yn 1999. Fodd bynnag, dadleuodd cynghorwyr Plaid Cymru yn llwyddiannus o blaid ei gadw at wasanaeth y gymuned.


Cynlluniau Adfywhau
Ymgymerodd Grwp Adfywhau'r ardal a'r gwaith o ddatblygu'r safle ac yn sgil gwaith gwych gan y pensaer, Bernard Davies, datblygwyd cynlluniau ynghyd a chynllun busnes i' r prosiect. Er adau am grantiau roedd rhaid i'r Grwp ddangos bod y tir yn eiddo iddo.

Y gobaith oedd cael y tir ar les gan y cyngor ond drylliwyd y gobeithion hyn gan y newyddion drwg a gafwyd. Ar adeg pan yw'r Llywodraeth yn pwysleisio pwysigrwydd chwarae ac ymarfer corff i bawb, ond yn enwedig i bob i ifainc, ffolineb yw colli'r unig ddarn o dir agored ar ochr ddwyreiniol y cwm yn Nhreorci.

Ofnau eraill a fynegwyd gan drigolion Heol yw na fyddai'r ffyrdd a'r gwasanaethau yn gallu cynnal rhagor o dai yn yr ardal arbennig hon. Rhaid pwysleisio nad yw Cabinet y Cyngor wedi penderfynu'n derfynol ar y mater ac mae'n sicr y bydd cyrff Heol ynghyd a thrigolion yr ardal yn pwyso'n drwm ar y Cyngor i gadw'r tir hwn at iws pobl lleol.

Mae'n adnodd rhy werthfawr i'w golli a ninnau'n cofio'r amarch a dangoswyd i dirwedd Cwm Rhondda gan ddiwydianwyr ac eraill yn y gorffennol.

Os ydych am ddatgan barn ar y mater pwysig hwn, dylech ysgrifennu at:
Arweinydd y Cyngor
Cyngh. Russel Roberts,
Swyddfa Cyngor Rhondda Cynon Taf
Parc y Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy CF40 2XX


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý