±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Daniel Evans yn cyfarwyddo 'Esther' Cyfweliad y Mis: Daniel Evans
Hydref 2006
Yr actor Daniel Evans o Gwmparc sydd o dan y chwyddwydr ym mhapur bro Y Gloran y mis hwn, yn trafod ei ddiddordebau, ei ddylanwadau a'i yrfa fel actor yn Llundain.

Pam benderfynoch chi fod yn actor?
Pan yn blentyn, roeddwn i'n cystadlu mewn eisteddfodau'n flynyddol. Prifathro Ysgol Ynyswen, Meirion Lewis oedd f'athro 'adrodd' a ches fynd i'r Genedlaethol un tro i 'Steddfod Pwllheli. R'on i'n arfer mynd i'r Ysgol Sul yng Nghapel Bethel gyda fy modryb, Doris Williams. Ro'n i'n mwynhau dysgu'r adnodau a'u perfformio o'r pulpud. Yn ogystal, ces fynd i weld dramâu Frank Vickery gyda fy mamgu, Myfanwy Jones, yn Neuadd y Parc a'r Dar. Wy'n meddwl mai cyfuniad o'r pethe hyn a gynnodd y fflam ynddo' i. A blynyddoedd wedyn, wrth wneud gwaith teledu i'r ±«Óãtv, sylweddolais fod modd gwneud bywoliaeth drwy actio.

Pwy / Beth oedd y dylanwadau arnoch?
R'on i'n ffodus iawn i fedru gweld llawer o ddramau yma yn Llundain pan o'n i'n ddisgybl yn Rhydfelen. R'odd yr actor, Ian McKellan yn arwr imi. Ces weithio gydag ef flynyddoedd wedyn ac mae e bellach yn ffrind! Yng Ngholeg y Guildhall, cafodd dau athro ddylanwad enfawr arna'i: Patsy Rodenburg (un o athrawon llais gorau'r byd erbyn hyn) a Vassily Skorik (athro o GITTIS, ysgol ddrama orau Moscow). Wy'n ystyried y gwaith a gyflawnais i yn ystod y gwersi hyn y gwaith gorau a wnes i erioed!

Pa actorion eraill rydych chi'n eu hed¬mygu?
Fe soniais am Ian McKellan eisoes. Erbyn hyn, yn y theatr, mae Judi Dench yn anhygoel. Ar ffilm, mae actor o'r enw Ian Hart yn medru newid ei bersonoliaeth yn llwyr er mwyn chwarae gwahanol gymeriadau. Fel mae'n digwydd, ces chwarae ei fab yn `The Virgin Queen' y llynedd. Ar deledu `The West Wing' oedd fy hoff gyfres. Mae'n drueni mawr ei bod wedi bennu erbyn hyn, ond roedd yna gast heb ei ail: Allison Janney, Bradley Whitford, Richard Schiff a John Spencer. Dyma gewri teledu'r Amerig.

Pa ran ydych chi wedi mwynhau ei chwarae fwyaf? Pam?
Ces chwarae'r brif ran mewn dwy ddrama gan ddramodydd o Efrog Newydd o'r enw Christopher Shinn, 'Other People' a 'Where do we live?' Dramodydd ifanc oedd y cymeriad (llais y dramodydd ei hun, fel petai) ac r' odd y ddwy ddrama wedi eu lleoli yn Efrog Newydd ac yn dangos yn athrylithgar fel y mae'r 'gwleidyddol' a'r 'personol' yn gorgyffwrdd ym mhob rhan o'n bywydau ni. Sut mae byw bywyd moesol yng nghanol cyfnod neo-geidwadol lle mae pŵer y farchnad rydd a'i gog¬wydd gystadleuol yn effeithio ar ein bywydau beunyddiol?

Pa gyfrwng sy'n rhoi'r boddhad mwyaf ichi?
Yn y gorffennol wy wastad wedi datgan mai'r theatr yw fy hoff gyfrwng. Wedi treulio 12 mlynedd nawr yn gweithio yn y theatr, rwy'n dechrau gwerthfawrogi cyfryngau eraill. Wnes i ychydig o waith teledu y llynedd a mwynhau'r profiad yn fawr. Ar y cyfan, mae gweithio ym myd teledu yn gallu bod yn unig, yn gyflym (dim ymarfer) a heb unrhyw reolaeth dros y canlyniad. Mae'r theatr ar y llaw arall yn cynnig cwmni cast o actorion yn gweithio gyda'i gilydd dros gyfnod o fisoedd ac yn cyflwyno drama i gynulleidfa sy'n dangos ei barn yn unionsyth - yn bositif neu yn negyddol! Mae hyn yn foddhaol iawn imi. Wedi dweud hyn, cael amrywiaeth yw'r gyfrinach, yn fy marn i.

Beth oedd eich ymateb i'r profiad o gyfarwyddo 'Esther' yn y Gymraeg?
Ces i wledd, rhaid cyfaddef. Fe weithiodd y cast yn galed iawn, iawn. A'r tîm cynhyrchu yn ogystal. Roedd yn hyfryd cael dod adre i gyfarwyddo ac, wrth gwrs, roedd ymateb hael cynulleidfaoedd dros Gymru benbaladr yn hyfryd iawn ac yn hollol annisgwyl. Rwy'n mawr obeithio y caf wneud mwy o waith cyfarwyd¬do cyn hir.

Pa ddatblygiadau hoffech chi eu gweld ym myd y theatr yng Nghymru?
Byddai'n wefreiddiol gweld cynyrchiadau safonol o glasuron Ewrop ochr yn ochr â dramâu newydd Cymraeg. Mae'n bwysig i fi fod y ddau yn cydfyw â'i gilydd - yr hen a'r newydd, gan fod cymaint gan y naill i' w gynnig i'r llall. Ein hathroniaeth wrth weithio ar 'Esther' oedd ei thrin fel drama newydd sbon.

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Rwyf ar fin gorffen rhediad go hir (9 mis) o sioe gerdd Stephen Sondheim, `Sunday in the Park with George' yn y West End yma yn Llundain. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae'r darn yn ddwys ac anodd ond mae ymateb ein cynulleidfaoedd wedi bod yn emosiynol tu hwnt. Dyma oedd sialens go iawn.

Sut ydych chi 'n hoffi treulio eich amser hamdden?
Yn gwylio DVDs o `West Wing"! O ddifri, rwy'n ail wylio penodau - weithiau 3 ar y tro! Wy hefyd yn hoff o'r sinema ac yn edrych ymlaen at weld ffilm newydd Pedro Almodover, 'Volver. Mae e'n un o'm hoff gyfarwyddwyr ffilm. Rwy'n aelod o `gym' ond 'dwy ddim wedi bod ers misoedd. Wy'n hoff iawn o ioga ac yn ceisio ymarfer bob hyn a hyn. Ond wedi'r rhediad yn Theatr Wyndhams, wy am fynd ar wyliau am y tro cyntaf mewn bron i dair blynedd.

Ydych chi'n cael cyfle i ddychwelyd i'r Rhondda y dyddiau hyn?
Ddim cymaint ag y baswn i' n hoffi. Mae fy rhieni'n byw yn Nhon Pentre ac mae'n hyfryd mynd am dro i'r mynydd y tu ôl i'w tŷ^. Wy'n edrych ymlaen at wneud hyn wedi imi orffen y sioe gerdd yn yr hydref.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý