±«Óătv

Mathau o gwestiynau cyfweliad

Mae modd gofyn gwahanol fathau o gwestiynau mewn cyfweliad. Yn 1996, ysgrifennodd seicolegydd o Norwy o’r enw Steinar Kvale lyfr a oedd yn nodi naw gwahanol fath o gwestiwn.

Cwestiynau Kvale

  • Cwestiynau cyflwyno, ee Wnei di ddweud rhywbeth wrthyf fi amdanat ti dy hun?
  • Cwestiynau dilynol, ee Roeddet ti’n cyfeirio at dy athrawon yn dy ateb diwethaf. Alli di roi mwy o fanylion i mi ynglĆ·n Ăą phwy ydyn nhw?
  • Cwestiynau treiddgar. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio pan fydd angen gwybodaeth fanylach, ee Alli di roi rhagor o enghreifftiau o hyn?
  • Cwestiynau penodol. Mae hyn yn golygu gofyn am wybodaeth ffeithiol, ee Faint o’r gloch wnest ti adael yr ysgol ddydd Mawrth?
  • Cwestiynau uniongyrchol. Mae’r rhain yn gwestiynau sydd ag ateb pendant, megis ie neu nage.
  • Cwestiynau anuniongyrchol. Y gwrthwyneb i gwestiynau uniongyrchol. Mae’r cyfwelydd eisiau clywed barn, ee Felly beth yw dy farn am wisg ysgol?
  • Cwestiynau strwythurol. Mae’r rhain yn helpu’r cyfwelydd i symud ymlaen i adran nesaf y cyfweliad, ee Gawn ni fynd ymlaen at y cwestiwn olaf?
  • Tawelwch. Pan mae seibiau tawel mewn cyfweliad, mae tuedd i’r cyfwelydd ddal i siarad. Fodd bynnag, dylai’r cyfwelydd geisio peidio Ăą llenwi’r saib dawel a gadael i’r cyfwelai siarad.
  • Cwestiynau dehongli, ee Wyt ti’n golygu dylai gwisg ysgol gael ei gwisgo gan bob plentyn yn yr ysgol, gan gynnwys y rhai sydd yn y chweched dosbarth?

Mae defnyddio gwahanol fathau o gwestiynau yn effeithiol oherwydd mae’n ffordd o wneud yn siĆ”r bod gwybodaeth briodol yn cael ei chasglu yn ogystal Ăą chadw diddordeb y cyfwelai.

Cynnal cyfweliadau

Mae recordio, trawsgrifio a dadansoddi cyfweliadau yn broses hir fel arfer.

Recordio cyfweliadau

Mae ymchwilwyr yn gallu gwneud nodiadau neu recordio’r cyfweliad. Ond dylai’r ymchwilydd ofyn am ganiatñd y cyfwelai os yw’n recordio’r cyfweliad.

Trawsgrifio cyfweliadau

Mae trawsgrifio yn golygu rhoi geiriau llafar mewn ffurf ysgrifenedig. Felly, gallai’r ymchwilydd drawsgrifio ei gyfweliad drwy deipio’r union eiriau gafodd eu dweud. Mae hyn yn gallu cymryd llawer iawn o amser. Er hyn, mae meddalwedd ar gael sy’n troi sain yn destun, ac mae hyn yn cyflymu tipyn ar y broses.

Dadansoddi cyfweliadau

Bydd y ffordd mae’r cyfweliad yn cael ei ddadansoddi yn dibynnu ar y fethodoleg a gafodd ei dewis.

Os yw ymchwilydd yn chwilio am wybodaeth ansoddol, efallai bydd yn darllen y trawsgrifiad drosodd a throsodd, gan geisio deall yr ystyr y tu îl i’r hyn sy’n cael ei ddweud. Byddai hyn yn ei helpu i nodi'r themñu cyffredin sy'n codi ar draws y cyfweliadau.

Fodd bynnag, os yw’r ymchwilydd yn chwilio am wybodaeth feintiol, efallai bydd yn cyfri sawl gwaith cafodd gair penodol ei ddweud er mwyn gwneud casgliadau, er enghraifft ynglĆ·n Ăą pha mor boblogaidd yw rhywbeth.