Cam un - gwybodaeth
Meddylia am bwrpas yr ymchwil a cheisio canfod pa wybodaeth sydd ei hangen, ee a oes angen gwybodaeth meintiol Mae ymchwil meintiol yn egluro ffenomena drwy gasglu data rhifiadol. Maeâr data hyn yn cael eu dadansoddi wedyn gan ddefnyddio dulliau mathemategol. neu wybodaeth ansoddolMae ymchwil ansoddol yn ceisio ateb cwestiynau ynglĆ·n Ăą pham a sut y mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Maeân darparu gwybodaeth fanwl am ymddygiad dyn.?
Enghraifft bywyd go iawn
Os wyt tiân ymchwilio i farn pobl ynglĆ·n Ăą beth syân gwneud ffilm dda, bydd angen i ti gael gwybodaeth ansoddol, oherwydd ymchwil ansoddol syân cael gwybodaeth am farn pobl.
Cam dau - pwy i'w dargedu
Penderfynu pwy yn union maeâr ymchwilydd eisiau ei holi. Fel arfer ni fydd ymchwilydd yn gallu holi pob unigolyn mewn poblogaethMewn arolwg mae poblogaeth yn golygu pob unigolyn y gallai rhywun ei holi. benodol, felly bydd yn dewis sampl cynrychioliadolDylai nodweddion y sampl fod yn debyg i nodweddion y boblogaeth..
Mae hyn yn golygu meddwl pa fath o bobl dylaiâr ymchwilydd eu holi. Maeân bwysig iawn, oherwydd bydd yn anodd mynd ymlaen i gamau tri a phedwar heb wybod hyn.