±«Óătv

Mathau o gwestiynau

Y mathau gwahanol o gwestiynau sy'n gallu cael eu defnyddio mewn holiadur yw:

  • cwestiynau aml-ateb/cwestiynau rhestr wirio

Cwestiynau agored

Mae cwestiynau agored yn tueddu i gael eu defnyddio pan fydd ymchwilwyr yn chwilio am wybodaeth ansoddol. Mae gwybodaeth ansoddol yn ceisio egluro pam a sut mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’n rhoi gwybodaeth fanwl am ymddygiad dynol.

Dyma enghraifft o gwestiwn agored.

Beth yn eich barn chi yw’r prif ffactorau sy’n achosi gordewdra yn y Deyrnas Unedig?

Byddai’r sawl sy’n llenwi’r holiadur yn rhoi ymateb mewn blwch sy’n cael ei ddarparu, neu’n gadael i’r cyfwelydd lenwi’r blwch ar ei ran.

Er hyn, mae’n bosibl troi cwestiynau agored sy’n arwain at wybodaeth ansoddol yn gwestiynau caeedig.

Os yw'r ymchwilydd yn chwilio am wybodaeth feintiol, mae’n bosibl mesur gwybodaeth feintiol a’i hysgrifennu mewn rhifau. O ganlyniad, bydd y data hyn yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio dulliau mathemategol.

Efallai bydd y cwestiwn yr un fath, ond byddai dewisiadau penodol yn cael eu hychwanegu er mwyn llywio atebion yr ymatebwr, ee

Beth yn eich barn chi yw’r prif ffactorau sy’n achosi gordewdra yn y Deyrnas Unedig? Ticiwch y rhai sy’n berthnasol.

Holiadur Ăą blychau i'w ticio gyferbyn Ăą datganiadau, a blwch yn dweud  'Os gwnaethoch ddewis 'Arall', rhowch fwy o fanylion yma:'.

Yn aml iawn mae categori ‘arall’ yn cael ei ychwanegu, oherwydd mae’n bosibl na fydd yr ymchwilydd wedi meddwl am bob ateb posibl.

Cwestiynau caeedig

Mewn cwestiynau caeedig, rhaid i’r ymatebwyr ddewis ymateb penodol, hyd yn oed os mai ‘arall’ neu ‘ddim yn gwybod’ yw’r ymateb, ee

Yn eich barn chi, ai diffyg ymarfer corff sydd wrth wraidd gordewdra yn y Deyrnas Unedig?

Bydd yr ymatebwyr yn gallu ateb ie, nage, ddim yn gwybod neu ymhelaethu ar eu barn yn y categori 'arall'.

Cwestiynau aml-ateb/cwestiynau rhestr wirio

Weithiau nid yw ymchwilwyr eisiau cyfyngu ar nifer yr ymatebion. Efallai byddan nhw eisiau i'r ymatebwyr ddewis faint bynnag o’r ymatebion sy’n berthnasol. Mae dau enw ar y math yma o gwestiynau, sef cwestiynau aml-ateb neu gwestiynau rhestr wirio.

Rhestr a'r geiriau 'Rho gylch o amgylch y gweithgareddau allgyrsiol sydd o ddiddordeb i ti': Mae cylch coch o amgylch Clwb gwyddbwyll, Clwb badminton a Chlwb mathemateg.

Question

Os wyt ti’n ymchwilio i wisg ysgol ac yn awyddus i wybod beth yw barn plant ysgol am orfod gwisgo gwisg ysgol, pa fath o gwestiynau fyddai’n gweithio orau?

Question

Os wyt ti’n ymchwilio i’r syniad o drefnu trip ysgol i amgueddfa ac yn awyddus i ganfod a fyddai’r disgyblion yn dod ar y trip ai peidio, pa fath o gwestiwn fyddai’n gweithio orau?