±«Óătv

Trefn y cyfweliad

Er mwyn cynnal cyfweliad rhaid penderfynu ar drefn y cyfweliad. Bydd trefn pob cyfweliad yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gyfweliad, hynny yw ai cyfweliad anstrwythuredig, lled-strwythuredig neu strwythuredig sydd dan sylw?

Mae trefn y cyfweliad yn cynnwys tair rhan.

Saethau wedi eu labelu fel Agoriad, Corff a Casgliad.

Agoriad

Yn y rhan agoriadol dylai’r cyfwelydd greu cysylltiad er mwyn gwneud i’r cyfwelai deimlo’n gartrefol a’i helpu i ymlacio, ee

“Diolch am fy nghyfarfod i heddiw. Rydw i’n edrych ymlaen i glywed beth sydd gennych i’w ddweud.”

Gallai hefyd gynnwys amlinelliad byr o bwrpas y cyfweliad, y rheswm dros gynnal y cyfweliad a hyd tebygol y cyfweliad, ee

“Hoffwn i ofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich profiadau o fynd at y deintydd. Bydd hyn yn fy helpu i gynorthwyo pobl eraill i oresgyn eu ffobia deintydd. Fydd y cyfweliad ddim yn cymryd mwy na chwarter awr.”

Siart llif Ăą blychau wedi eu labelu fel Meithrin perthynas, Datgan pwrpas, Datgan cymhelliant, Rhoi llinell amser.

Corff

Bydd y corff yn cynnwys cwestiynau’r cyfweliad. Bydd manylder y cwestiynau yn dibynnu ar ba fath o gyfweliad sydd wedi cael ei ddewis:

  • cyfweliad anstrwythuredig
  • cyfweliad lled-strwythuredig
  • cyfweliad strwythuredig

Diweddglo

Yn y diweddglo mae’r cyfwelydd yn diolch i’r cyfwelai ac yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf, ee

“Diolch yn fawr am gymryd rhan yn y cyfweliad hwn. Roedd yn ddefnyddiol iawn. Mae gen i un cyfweliad arall i’w wneud, yna byddaf yn dadansoddi’r canfyddiadau. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad terfynol wedi’i gwblhau erbyn Rhagfyr.”