Cam pump - trefn
Yn gyffredinol, dylaiâr cwestiynau ar ddechrau holiadur fod yn rhai hawdd iâw hateb. Os bydd ymatebwyr yn meddwl bod y cwestiwn cyntaf yn anodd iâw ddeall, yn aneglur neuân gwneud iddynt deimloân annifyr, efallai na fyddant eisiau mynd yn eu blaenau. Dylai cwestiynau agoriadol hawdd gynyddu pa mor debygol byddan nhw'n cwblhauâr holiadur cyfan.
Bydd angen gwneud yn siĆ”r bod y cwestiynauân llifoân dda. Mae hyn yn golygu gosod y cwestiynau mewn trefn syân gwneud synnwyr. Mae ymatebwyr yn gallu drysu os yw'r cwestiynau yn neidio o un pwnc iâr llall, neu os oes rhaid mynd yn ĂŽl at bwnc sydd wedi cael ei grybwyll yn barod.
Enghraifft
Os yw holiadur wedi cael ei gynllunio er mwyn ymchwilio i ffyrdd iach o fyw, dylai ddechrau Ăą set o gwestiynau am fwyta'n iach, a mynd ymlaen wedyn at y set nesaf o gwestiynau am ymarfer corff. Mae'n debygol bydd ymatebwyr yn drysu braidd os oes mwy o gwestiynau am fwyd yn codi ar ĂŽl y cwestiynau am ymarfer corff, oherwydd ni fyddai trefn yn cwestiynau yn gwneud synnwyr iddyn nhw.
Mae ymatebwyr yn hoffi holiaduron sydd Ăą gwahanol fathau o gwestiynau, ac nad ydynt yn ailadrodd eu hunain. Gall y gwahanol fathau o gwestiynau gynnwys:
- cwestiynau agored syân rhoi rhyddid i ymatebwyr ateb fel maen nhw'n dymuno
- cwestiynau caeedig fel cwestiynau ie/na
- cwestiynau sydd Ăą dewisiadau, fel cytunoân gryf, cytuno, anghytuno neu anghytunoân gryf
Dylai ymchwilwyr hefyd wneud yn siĆ”r nad ywâr holiaduron yn rhy hir. Bydd ymatebwyr yn diflasu os yw holiadur yn rhy hir ac maeân bosibl na fyddan nhw'n cyrraedd y diwedd.
Cam chwech - peilot
Mae holiadur peilot Treialu rhywbeth er mwyn gweld a oes problemau. yn gyfle i dreialuâr holiadur. Mae hyn yn golygu gofyn i ychydig o bobl, megis ffrindiau a theulu, ateb y cwestiynau o flaen llaw.
Mae holiadur peilot yn cael ei ddefnyddio er mwyn canfod:
- a ywâr cwestiynau wediâu geirioân glir
- a yw'r cwestiynau yn rhoiâr wybodaeth sydd ei hangen
- a yw pawb yn deall y cwestiynau
- a ywâr cwestiynau yn y drefn iawn
- a oes angen mwy o gwestiynau
- a ywâr ymatebwyr yn deall y cyfarwyddiadau ynglĆ·n Ăą sut i gwblhauâr holiadur
Mae holiadur peilot yn bwysig iawn, oherwydd mae ysgrifennu cwestiynau wediâu geirioân dda a fydd yn glir iâr ymatebwyr yn dasg anodd. Felly, os nad yw holiadur wedi cael ei dreialu, ni fydd yr ymchwilydd yn gwybod a ywâr holiadur yn mynd i roiâr canlyniadau y mae arno eu heisiau.
Cam saith - cwblhau
Y cam olaf yw paratoiâr fersiwn derfynol, yn seiliedig ar yr adborth iâr holiadur peilot, a gwneud yn siĆ”r nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu neu atalnodi, ac nad oes unrhyw wallau gramadegol.