±«Óătv

Self-reflection

Mae yn rhan bwysig o’r broses ymchwil. Mae’n golygu bod yr ymchwilydd yn edrych yn îl ar ei ymchwil, ac yn meddwl beth aeth yn dda a beth byddai wedi gallu ei wella.

Gall ymchwilwyr hefyd ystyried a wnaethant ddylanwadu ar ganfyddiadau’r ymchwil mewn unrhyw ffordd, er enghraifft drwy duedd mewn cyfweliad, a meddwl am ffyrdd o atal hynny rhag digwydd eto.

Wrth fyfyrio ar y pethau da (cryfderau) a’r pethau byddai’n bosibl eu gwella (gwendidau), bydd angen i ti ystyried dy berfformiad dy hun mewn tri phrif faes:

  • cynllunio
  • datrys problemau
  • cwblhau prosesau

Cynllunio

Myfyria ar dy berfformiad drwy ystyried pa mor effeithiol oedd dy sgiliau cynllunio wrth i ti:

  • osod nodau ac amcanion
  • creu amserlenni a gosod cerrig milltir, terfynau amser a thargedau
  • adnabod risgiau
  • defnyddio offer cynllunio
  • canfod, dewis a chasglu gwybodaeth a data rhifiadol o ffynonellau amrywiol

Datrys problemau

Myfyria ar dy berfformiad yng nghyswllt datrys problemau, drwy ystyried pa mor effeithiol oeddet ti wrth geisio:

  • canfod gwybodaeth, adnoddau a deunyddiau a fyddai’n dy helpu gyda’r project
  • canfod gwybodaeth, ffactorau, tebygrwydd a gwahaniaethau
  • gwneud penderfyniadau, crynhoi a chyflwyno canfyddiadau

Cwblhau prosesau

Myfyria ar dy berfformiad dy hun yng nghyswllt cwblhau prosesau, drwy ystyried:

  • pa mor effeithiol oeddet ti wrth ddatblygu’r sgiliau a’r technegau er mwyn cwblhau’r project
  • pa mor effeithiol oeddet ti wrth reoli amser, hynny yw wnest ti gadw at y terfynau amser?
  • pa mor fodlon wyt ti gyda safon gyffredinol y project
Merch yn edrych yn feddylgar o flaen bwrdd du Ăą marciau cwestiwn arno