±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Rowan Williams Rowan Williams
Diwinydd sy'n rhoi'r byd yn ei le
Fel diwinydd sydd wedi troi ei ddiwinyddiaeth yn rhywbeth ymarferol ar gyfer mynd i'r afael a chyflwr y byd a chymdeithas y mae awdur cofiant newydd yn gweld Rowan Williams, y Cymro sy'n arwain Eglwys Loegr.

Clawr y llyfr Bu Cynwil Williams yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg am ei gofiant a gyhoeddodd wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe.

Yn wir, 'lansiwyd ' y gyfrol Yr Archesgob Rowan Williams gan Wasg Pantycelyn yn syth wedi i'r Archesgob gymryd rhan yn oedfa bore Sul yr Eisteddfod.

Gwaith darllen
Mae'r llyfr yn ffrwyth dwy flynedd a hanner o lafur - gyda llawer o'r amser wedi mynd i ddarllen y cyfan a sgrifennwyd gan Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn anerchiadau, yn draethodau diwinyddol ac yn gerddi.

"Fe gymerodd hi flwyddyn a hanner i ddarllen ei waith - dyw e ddim yn sgwennu'n rhwydd iawn - ac mae o wedi sgrifennu, mae'n debyg, rhyw bum i chwe miliwn o eiriau," meddai Cynwil Williams gan ychwanegu i rhyw gyfraniad newydd gael ei gyhoeddi bob tro y tybiai iddo orffen y gwaith darllen.

Yn Gymro
Ynglŷn â'i fwriad wrth fynd ati i sgrifennu dywedodd:
"Yr hyn oedd gen i mewn golwg o'r dechrau oedd ei gyflwyno fel bachgen o blith ein cenedl ni. Mae o'n Gymro; yn Gymro cynnes iawn ac mae hynny yn dod allan yn amlwg iawn," meddai.

Rowan Williams "Mae hefyd yn fachgen o'r gymuned leol yma ac rwy'n falch mai yma y mae'r llyfr yn cael ei lansio oherwydd yma yn Abertawe y treuliodd o'i fywyd cynnar - fe fu o yng Nghaerdydd wrth gwrs ond yma yn Abertawe y trodd o at yr Eglwys yng Nghymru ac yma y cafodd o ei dröedigaeth at y math o ffurf grefyddol sydd yn lliwio ei fywyd," meddai.

Rhoi'r byd yn ei le
Cyfeiriodd hefyd at y syniad o 'gyfiawnder' sy'n elfen mor bwysig ym mywyd Rowan Williams.

"Ar ôl bod yn ddiwinydd dygn ac efallai yn teimlo'n rhwystredig iawn mae wedi troi yn ddiweddar at roi y byd yma yn ei le.

"Felly hefyd, y genedl, y gymuned ac os cai ddweud - cyfiawnder yn y byd yma; ym mhob problem mae e'n rhoi ei farn ac yn rhoi ei arweiniad.

Ei athrylith
"Rydw i wedi dechrau [y llyfr] trwy sôn am ei dylwyth e yn y fro hon - un ochr o'r teulu yn Annibynwyr yr ochr arall yn Fethodistiaid a sut y bu iddo gael y dröedigaeth yma.

"Ac yna, yn yr ail ran, yr ydw i'n trafod ei athrylith ef - y ffordd mae e'n trafod syniadau Cristnogol, yn diwinydda, sut y mae o'n gweld bywyd a'r byd yma."

Dywedodd fod y ffaith fod Rowan Williams o'r un cyff â William Williams Pantycelyn yn egluro rhywfaint ar ei athrylith iddo.

"Ac y mae'n egluro hefyd yr ysbrydoledd aruthrol yma sydd yn y dyn a'r gwyleidd-dra mawr yma a'r ddealltwriaeth eang yma sydd ganddo o fywyd yn ei gyfanswm.
Ac er nad ydw i yn aros efo hwnna mae yna awgrym fod yr athrylith yma wedi dod lawr yn y wythïen fawr [deuluol]," meddai.

Maen i'r wal
"Erbyn hyn, wedi gwneud cyrsiau gwych iawn mewn diwinyddiaeth mae Rowan Williams wedi dod i'r fan hon yn ei fywyd lle mae o'n rhoi y wleidyddiaeth hon sydd yn ei galon yn nhermau y ddiwinyddiaeth y mae wedi cael ei hyfforddi ynddi .

"Mae o'n parhau yn ddiwinydd o'r radd flaenaf ond y mae e'n mynd, os mynnwch chi, a'r ddiwinyddiaeth honno fel maen i'r wal ar hyn o bryd," meddai.

Cynwil Williams
  • Un o Gwrt y Cadno, Sir Gaerfyrddin, yw Cynwil williams. Bu'n weinidog yng Nghaerfyrddin, Dinbych a Chaerdydd ac wedi ymddeol yr aeth ati i baratoi'r gyfrol hon.

  • Cyhoeddir Rowan Williams gan Wasg Pantycelyn. Pris £14.95. Mae'n cynnwys nifer o luniau.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý