±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Sion Meredith Siôn Meredith - gadael Tearfund
Ymweld a Rwanda yn uchafbwynt
Wedi tair blynedd ar ddeg yn gweithio gyda'r elusen efengylaidd Tearfund mae Siôn Meredith yn symud i swydd newydd mewn maes newydd - yn gyfarwyddwr cynllun dysgu Cymraeg i oedolion yng Nghanolbarth Cymru.

Bu'n edrych yn ôl dros ei dair blynedd ar ddeg gyda Tearfund ar y rhaglen Bwrw Golwg, Hydref 15, 2006, yng nghwmni John Roberts.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud:

  • Blynyddoedd o gynnydd

  • "Mae wedi bod yn dair blynedd ar ddeg o gynnydd lle'r ydym wedi gweld rhagor o bobl yn rhoi tuag at waith Tearfund ac yn rhoi yn fwy hael - fel sydd wedi digwydd i'r holl fudiadau dyngarol ond yn arbennig yn achos Tearfynd.

    "Ac hefyd, rhagor o bobl yn ymwneud yn wirfoddol a llawer mwy o eglwysi yn ymateb i waith Tearfund yng Nghymru.

    "Mae wedi bod yn foddhad arbennig i mi gan mai ymhlith ein gwirfoddolwyr ni yng Nghymru mae fy ngwaith i wedi bod yn bennaf - i weld cynnydd yn eu niferoedd nhw, yn eu gweithgarwch nhw ac yn eu brwdfrydedd nhw.

  • Pethau wedi newid

  • Er bod rhai pethau wedi newid dywedodd fod "her tlodi" yn un enfawr sy'n dal i wynebu mudiadau fel Tearfund.
    Am y newidiadau a welodd, meddai:

    "Mae yna elfennau newydd o'r her yn codi drwy'r amser.

    "Pan gychwynnodd Tearfund yn 1968 doedd yna ddim sôn am HIV ac AIDS. Dair blynedd ar ddeg yn ôl pan ddechreuais i yn Tearfund dim ond dechrau mynd i'r afael a'r her honno yr oeddem ni.

    "A doedd yna ddim sôn ond ymhlith rhai pobl oedd o flaen eu hamser ynglŷn â newid hinsawdd - ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn erbyn hyn fod newid hinsawdd yn digwydd yn real a'i fod yn effeithio ar bobl dlawd yn fwy na neb arall.

    "Dyma bethau newydd mae'n rhaid inni eu hwynebu bellach ac fel mae pethau'n newid mae'n rhaid i ninnau newid hefyd i gyfarfod â'r anghenion newydd."

  • Heb dorri calon

  • Dywedodd nad torri calon ynglÅ·n â mawredd y dasg a barodd iddo adael Tearfund.

    "Yr ydw i wedi rhwygo nghalon bron ynglŷn â gadael achos fy mod i wedi cael cymaint o foddhad - ac yn dal i gael - ac mi fydda i'n dal i wneud gwaith gwirfoddol ond ar ôl tair blynedd ar ddeg hwyrach ei bod yn gyfle i rywun arall gael cynnig arni."

  • Newid mewn agwedd efengylaidd

  • Yn ystod ei gyfnod dywedodd iddo weld newid mewn efengyliaeth yng nghyd-destun gwaith elusennol gyda phwyslais yn awr, nad oedd yn bodoli cynt, ar weithredu cymdeithasol o gymharu â phwyslais llwyr ar fywyd ysbrydol a natur addoli yn y Chwedegau.

    "Dwi'n credu fod y newid wedi cael ei arwain gan Gristnogion yn y gwledydd tlawd. Diwinyddion fel René Padilla o'r Ariannin sydd wedi sgrifennu a siarad llawer ynglŷn â chenhadaeth gyfan - integral misson - lle'r ydym ni'n plethu gweithredu cymdeithasol ag efengylu; y ddau beth yn anwahanadwy."

    Cytunodd fod efengylu yn parhau yn rhan hanfodol o weithgarwch y mudiad, yn wahanol i Cymorth Cristnogol, dyweder.

    "Mae wedi cael ei blethu'n naturiol i mewn i'r hyn ydym ni'n i wneud . Yn ogystal â dylanwad diwinyddol pobl fel René Padilla mae esiampl ymarferol partneriaid Tearfund fel un sy'n gweithio ymhlith pobl mewn slymiau yn Delhi yn yr India - maen nhw wedi dangos sut y gall yr eglwys weithio mewn ffordd wahanol i drawsnewid bywyd pobl yn y slymiau.

    "Dwi'n meddwl fod y dylanwad diwinyddol yna a'r esiampl ymarferol wedi arwain y ffordd ac wedi dechrau trawsnewid ein meddyliau ni fel pobl efengylaidd ym Mhrydain."

  • Peryglon derbyn er mwyn cael

  • Un o beryglon cymysgu'r neges Gristnogol a gwaith elusennol yw fod peryg i rai mewn angen dderbyn y neges grefyddol dim ond er mwyn derbyn yr elusen.

    "Yn hollol, a dyna pam y mae'n partneriaid ni yn ceisio osgoi'r perygl hwnnw trwy ofalu nad ydi gwrando ar bregethau neu ddod i eglwys neu gael rhyw dröedigaeth arwynebol yn amod i dderbyn cymorth ond yn rhywbeth sy'n deillio'n naturiol o'r cariad sy'n cael ei ddangos. [Hwnnw] ydi'r trawsnewidiad ysbrydol sy'n digwydd ym mywydau pobl."

  • Gweithredu eciwmenaidd

  • Holodd John Roberts pa mor hawdd fu hi i rai yn Tearfund ymuno ag ymgyrchoedd eciwmenaidd?

    fgh "Mi fu'n gam newydd yn ystod fy nghyfnod i yn Tearfund lle'r oeddem ni a'n gwreiddiau efallai mewn byd efallai yn wahanol - ond yr ydym wedi gweld ei bod yn bwysig gweithio â mudiadau eraill ar faterion mor fawr a dyled rhyngwladol ac ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi y llynedd.

    "Mae y pethau hyn yn mynd at wraidd pam y mae pobl yn byw mewn tlodi yn y lle cyntaf ac y mae honno yn frwydr sy'n llawer mwy nag y gall Tearfund ar ei ben ei hun ei brwydro."

  • Ymweld â Rwanda

  • Dywedodd mai un o'r uchelbwyntiau iddo yn ystod ei gyfnod gyda Tearfund oedd ymweld â Rwanda yn 2005.

    "Yr oeddwn wedi clywed cymaint am Rwanda dros y blynyddoedd ac yn enwedig yr hil-laddiad yn 1994 yn un o'r digwyddiadau mawr cyntaf ar ôl imi gychwyn yn y swydd.

    "Yr oedd hi'n fraint cael mynd yno a gweld 11 mlynedd wedi'r hil-laddiad sut yr oedd pethau'n newid a chyfarfod pobl fel Michele Kabayata sydd yn arwain un o bartneriaid Tearfund a gweld sut y cafodd o a'i deulu eu harbed yn ystod yr hil-laddiad ac wedyn ymroi i wneud gwaith cymodi ac ailadeiladu'r wlad a gweld beth maen nhw wedi'i wneud mewn ardaloedd gwledig. Roedd yn wir ysbrydoliaeth."

  • Dod at ei gilydd

  • Dywedodd mai'r eciwmeniaeth "mwyaf ystyrlon" yw hwnnw pan yw eglwysi yn dod at ei gilydd i gydweithio ar rywbeth penodol sy'n creu gobaith tuag at y dyfodol.

    "Os mai trefniant rhesymoli ydi o - y niferoedd yn gostwng yr angen i ddod a mwy o eglwysi dan un gweinidog - dydi hwnnw ddim mor arwyddocaol a'r peryg ydi mai dyna'r math o eciwmeniaeth sydd yn digwydd.

    "Mae modd inni gadw mewn eglwysi a chynulleidfaoedd ar wahân a bod mewn traddodiadau ar wahân ond eto ein bod ni 'n rhannu yr hyn sy'n gyffredin rhyngom ni."

  • Labeli enwadol

  • "Dwi'n credu bod y labeli enwadol yn dechrau bod yn llai arwyddocaol erbyn hyn a bod Cristnogion sy'n rhannu yr un argyhoeddiadau - ym mha bynnag enwad maen nhw - yn ymwneud a'i gilydd.

    "Ac un o'r ffyrdd maen nhw'n ymwneud a'i gilydd ydi trwy fudiadau fel Tearfund lle mae rhai yn Fedyddwyr, yn Annibynwyr neu'n Anglicaniaid neu'n Gristnogion Efengylaidd mewn eglwysi efengylaidd annibynnol.

    "Mae hynny'n dod yn llai pwysig dwi'n credu na'r hyn maen nhw'n rannu'n gyffredin ac mae'r math yna o eciwmeniaeth leol yn digwydd dwi'n credu."

  • Llun: Sion Meredith yn Uganda fis Mai 2005 yn siarad â theulu oedd wedi cydweithio â chymdogion i godi tanc concrid i gasglu dŵr glaw ar gyfer ei yfed.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý