±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Wfftio geiriau crefydd mewn rygbi
Sylwebydd yn anhapus gyda pharodi Gweddi'r Arglwydd
Bu'r sylwebydd rygbi a chyn gyflwynydd Dechrau Canu Dechrau Canmol, Huw Llywelyn Davies, yn sôn pa mor anhapus yw ef gyda'r delweddau crefyddol sy'n cael eu defnyddio gan ohebwyr wrth drafod rygbi.


Cyfeirio yr oedd at yr arfer o ddisgrifio rhai fel Graham Henry - ac yn awr Warren Gatland - fel gwaredwyr rygbi Cymru. Yn "Great Redeemers".

Yn anesmwyth
"Roeddwn i'n anesmwyth iawn yng nghyfnod Graham Henry pan oedd y Great Redeemer a'r Gwaredwr wedi cyrraedd," meddai ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul, 9 Mawrth 2008..

"Ac yn amserol iawn fe fues i'n dadlau yn reit frwd yn y swyddfa yma yn ddiweddar oherwydd cyn gêm Cymru a'r Alban - a Warren Gatland wedi dod mewn ac ennill un gêm yn Nhwickenham - yr oedden nhw wrth eu bodd yn y swyddfa eu bod nhw wedi cael ffordd i' ddechrau'r rhaglen Saesneg [gyda pharodi o] Gweddi'r Arglwydd," meddai.

"Oedden nhw wedi'i saethu fe yng Ngholeg Llanymddyfri . . . a chriw o blant a phobl ifainc yn dod i mewn fel pe bydde nhw'n gôr eglwysig yn canu Bread of Heaven ac yna roedd y pregethwr yn dechrau dysgu y weddi newydd yma i'r plant, 'Our hero who captured Twickenham; Gatland be thy name. Give us on Saturday more heavenly bread and forgive us our lineout'

Yn casáu
"Nawr roeddwn i'n casáu [hyn] ac yn meddwl fod y peth yn ddi-chwaeth ac o leiaf yn amharchus ac yn ymylu ar fod yn gableddus.

"Mae pethau fel yna yn fy mhoeni i o hyd," meddai. "A phan oeddwn i'n cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol roedd llawer o bobl yn dod a dweud wrthyf i, 'Rwyt ti'n lwcus - rwyt ti'n darlledu ar y ddwy grefydd sydd yng Nghymru.

"Hynny yw, byddai rhai yn dweud bod rhyw elfen ysbrydol os yw y tîm rygbi yn gwneud yn dda. Ei fod e'n codi y genedl - wel, efallai bod yna elfen o wirionedd yn hynny.

Diflaniad yr emyn
Ond er bod delweddau crefyddol yn cael eu defnyddio gan ohebwyr a sylwebwyr mae cysylltiad crefyddol arall o'r dorf yn uno i ganu emynau ar drai.

"Mae'r cysylltiad wedi bod yn agos cofiwch oherwydd yr hen arfer o ganu emynau am awr neu fwy ond dydy ni ddim yn gweld hynny bellach am ddau reswm; mae'r Gymraeg wedi colli gafael ac yn fwy fyth mae'r capeli wedi colli gafael ac yn anffodus dyw y gynulleidfa bellach ddim yn gwybod mwy na rhyw ddwy linell o'n hemynau ni," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý