±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Archesgob Rowan Williams
Portread o ddyn arwrol, diofn, addfwyn a dyngar
  • Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Yr Archesgob Rowan Williams: ei dylwyth, ei athrylith a'i drafferthion gan Cynwil Williams. (Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 2006), 311tt, £14.95


  • Mewn gwyleidd-dra gofidus yr ysgrifennaf yr adolygiad hwn.
    Mewn gwyleidd-dra am fy mod yn ymwybodol taw amatur ydwyf ym maes diwinyddiaeth (a diwinyddiaeth yw deuparth yr astudiaeth hon); mewn gwyleidd-dra gofidus am fy mod wedi dod i ben â darllen y gyfrol gyda mwy o gwestiynau am yr Eglwys a'i Ffydd nag oedd gennyf cyn ei dechrau.

    Clawr y llyfr Dichon y dywedai rhai - ac awdur y gyfrol yn eu plith, efallai, - nad drwg hynny, oblegid honnir yma droeon mai wrth holi a stilio y deuir o hyd i atebion am yr Anchwiliadwy, yn enwedig yn yr oes hon.

    Honnir hynny, er enghraifft,ym Mhennod 4, lle dilynir rhybudd Bonhoeffer i ddistewi, ac eto ym Mhennod 6, lle pwysleisir ymhellach werth y dull negyddol o geisio'r gwirionedd am Dduw, y via negativa y canodd R. S. Thomas gryn dipyn amdani.

    Mesur o ffugesgus
    I mi, y mae mesur o ffugesgus yn yr honiad hwn. Er dyfynnu'r bardd yn fuddugoliaethus, ni sylwa Cynwil Williams wrth drafod y pwnc hwn nad gyda gobaith o gyrraedd na darganfod y cerdda R. S. y ffordd negyddol.

    "God," ebr ef, yw'r "great absence,... the empty silence /Within, the place we go /Seeking, not in hope to /Arrive or find."

    Purion i fardd ysgrifennu fel hyn, ac ymddwyn fel hyn; ond gwaith yr offeiriad, boed hwnnw'n R. S. neu Gynwil neu Rowan Williams, yw datgan natur Duw wrth ei bobl. Onid yw'r offeiriad yn gwybod sut Dduw y mae'n ei addoli a'i bregethu, sut ellir credu ynddo? At hynny, beth yw pwynt credu ynddo?

    Diwinydd traddodiadol
    Er dweud o Gynwil Williams fod Rowan Williams yn cymeradwyo'r ymchwil negyddol hon, y mae hefyd yn dweud bod yr Archesgob yn ddiwinydd traddodiadol.

    "Etifeddiaeth gyfoethog i'w diogelu," meddir, yw'r athrawiaethau traddodiadol a gafwyd gan y Tadau Eglwysig yn y canrifoedd cynnar yn Oed Crist, ac o'r Oesoedd Canol ymlaen -- athrawiaethau i'w "diogelu a'u cyfoesi".

    Dau gwestiwn arall yma, os caf.
    Yn gyntaf, (i) sut all ymchwilydd ysbrydol gerdded y ffordd negyddol yn onest-noeth os yw wedi'i arfogi ag athrawiaethau, sef y syniadau set a dderbyniodd yr Eglwys drwy'r canrifoedd?

    Yn ail, (ii) sut mae cyfoesi rhai o'r rheini? (cymeraf yn ganiataol mai ystyr 'cyfoesi' yma yw eu gwneud yn berthnasol i'r oes sydd ohoni). Dyry'r Archesgob bwys mawr ar y Drindod o Bersonau, ebe'i gyflwynydd. A yw'n ormod gofyn sut y gellir cyfoesi athrawiaeth y Drindod, sef undod y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân?

    Gweld sut
    Yr hyn yr wyf yn ei geisio wrth ofyn y cwestiynau hyn yw gweld sut yn y byd y gall y diwinydd da (a 'does dim dwywaith am swmp nag ansawdd ysgrifeniadau a phregethau ac anerchiadau Rowan Williams) drwy'r pethau hyn wella'r byd, diben pob pregethwr, a diben a nodir fel diben bywyd Rowan Williams sawl tro yn y gyfrol hon.

    Ond, onid yw dyn yn byw ac yn bod y tu fewn i amlen ffydd eisoes, a chan hynny'n derbyn dysgedigaethau'r Eglwys, y mae'n anodd gennyf weld neb yn nesáu at y Bywyd Da drwy dderbyn set o athrawiaethau dychrynllyd o anodd, amhosibl yn wir, i'w dirnad, nac ar hyd y ffordd negyddol drwy beidio â system o athrawiaethau.

    Heblaw, wrth gwrs, ei fod yn cael ei gyffroi gan rywbeth arall seicolegol neu ysbrydol sy'n ei hoelio wrth Waredwr.

    Mynd ar brofiad fy astudiaethau ym maes y Diwygiad Methodistaidd yr wyf wrth honni hyn, Diwygiad yr oedd Williams Pantycelyn ynghlwm wrtho.

    Y mae Cynwil yn cyfeirio at Bantycelyn yn aml yn ei astudiaeth o Rowan, ac unwaith neu ddwy yn tynnu cymhariaeth dynn rhyngddynt.

    Gwneud gwaith diwygiadol mewn cornelyn o'r byd yr oedd Pantycelyn (gan fod yn ymwybodol ar yr un pryd o'i stiwardiaeth ddaearol fyd-eang); plwyf Rowan yw'r byd i gyd, y taleithiau Anglicanaidd oll, o Durham hyd y Dardanelles hyd at Ddarwin.

    Gweadau'r brethyn
    Yn y byd hwnnw, y mae gweadau tra gwahanol i'r brethyn a elwir Anglicaniaeth Lloegr (heb sôn am y brethynnau sy'n gwau'r crefyddau mawr eraill).

    Dyna, ar ben problemau dysgeidiaeth, broblemau eraill sy'n wynebu'r Archesgob beunydd, problemau diwylliannau a dirnadaethau eraill.

    Pwy all uno'r cenhedloedd Cristionogol heb sôn am uno'r credoau oll?
    Neb, debyg.
    Ond fe geisia'r Archesgob eu cael i ddeall ei gilydd.

    Heb os, y mae'r portread ohono a geir yn y llyfr hwn yn bortread o ddyn arwrol, diofn, addfwyn a dyngar a ymdrecha'r ymdrech anferth honno.

    Hwn, yr awdurdod ar Nicea, a droes y canrifoedd ar eu pennau ac a ordeiniodd ferched yn offeiriaid. Hwn, bennaeth llên Eglwys Loegr (ond nid ei phennaeth lleyg), a wrthwynebodd yn gryf Ryfel Irac er bod Mr Blair a'r Arlywydd Bush, ill dau yn Gristnogion cyhoeddus, yn gryf o'i blaid.

    Ni ellir llai na'i edmygu.

    Cofiant cliriach
    Wrth ddweud hynny, rhaid imi ddweud hefyd y byddai'n dda gennyf pe na bai'r gyfrol hon yn cynnwys cynifer o elfennau hagiograffig.

    Byddai'n dda gennyf hefyd petai'r awdur wedi llunio cofiant cliriach - hynny yw, wedi rhoi inni hanes gyrfa Rowan yn y brifysgol ac yna wrth ei waith fel darlithydd ac esgob, -- ac wedi trafod ei fyrdd syniadau diwinyddol a pholiticaidd-gymdeithasol wrth fynd rhagddo.

    Fel y mae, y mae'r llyfr yn gadael Rowan yn yr ysgol uwchradd, ac yna'n mynd ati i draethu ar ei ddaliadau ar nifer mawr o bynciau, heb drefn amlwg i'r traethu hwnnw.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Cynwil Williams

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý