±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Aled Jones Williams Argyfwng crefydd
Galw am dynnu meddyliau 'drwy ddrain a mieri hunan dwyll'
Mae offeiriad a dramodydd wedi galw am ddadl i ganfod beth yn union yw hanfod crefydd yng Nghymru heddiw.

Ac mae'r Parchedig Aled Jones Williams wedi cael cefnogaeth y Parchedig Enid Morgan sydd hefyd yn poeni nad oes trafodaeth ddiwinyddol ystyrlon yng Nghymru heddiw.

Gofiadiai hi fod pobl ifainc yn dilyn cyrsiay cyfryngol mewn colegau yn hytrach na mynd i'r afael ag Athroniaeth a Diwinyddiaeth.


'Metaffor' yw crefydd
Daeth y mater yn bwnc trafod ar y rhaglen radio Bwrw Golwg yn dilyn llythyr byrlymus yn y wasg gan Aled Jones Williams yn ymosod ar ffwndamentaliaeth Crefyddol.

Yn ei lythyr at Golwg dadleuai mai "metaffor" yw crefydd ac mai "delwedd" yw'r gair Cymraeg, Duw.

"I fyd y dychymyg fel pob celfyddyd arall mae'r crefyddol yn perthyn ac nid i diriogaeth ffaith a gwyddor," meddai yn Golwg.

"Ymgais yw'r crefyddol i geisio creu synnwyr o'r cyflwr dynol yn ei gyni, ei brydferthwch a'i ddiawledigrwydd.

"Y mae gan y mythau Iddewig/Cristnogol bethau gwerthfawr i'w dweud o hyd wrthym . . . wrth gwrs mai nonsens biolegol yw penodau cyntaf Genesis ond eu gwirionedd dirfodol yw'r peth, sef ein bod o hyd yn ceisio dwyn creadigaeth allan o'r hyn sy'n dryblith ynom," meddai.

Crefydd heb ddychymyg
Aeth ymlaen i ddweud fod y byd crefyddol Cymreig yn un mor ddi-ddychymyg nes creu argyfwng crefyddol yn y wlad.

"Nytces yw unrhyw un sy'n meddwl fod gan enwadaeth Cymru unrhyw ddyfodol," meddai gan ychwanegu na allai feddwl am ddau lyfr crefyddol Cymraeg gwerth eu darllen a gyhoeddwyd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

"Mae meddwl yn wahanol yn grefyddol yn y genedl yn beth prin iawn," meddai.

Rhwystredigaeth
Dywedodd ar Bwrw Golwg mai rhwystredigaeth a'i symbylodd i sgrifennu.

"Yn yr ystyr bod yna rywbeth difrifol yn digwydd yn grefyddol yng Nghymru - ac rydw i wedi meddwl hynny ers tro byd," meddai.

Dywedodd i'r wlad syrthio rhwng dwy stôl geidwadol - y naill yn geidwadaeth efengylaidd a'r llall yn geidwadaeth "arall".

"Felly mae yna le i gael dadl [ynglŷn â] beth ydi hanfod crefydd. Bod yna wahanol fathau o ddirnad crefydd a beth sy'n digwydd yn yr Eglwys Anglicanaidd, y safbwynt gwrth hoyw yna. A phan ydych chi'n edrych ar y teledu beth gewch chi ydi fod crefydd yn cael ei uniaethu â thrais. Felly mae angen dadl," meddai.

Yn bancrypt
"Os edrychwch chi ar y ffeithiau mae'r Eglwys yng Nghymru yn prysur redeg allan o arian. Mi fuaswn i'n dweud ei bod hi'n bancrypt," ychwanegodd.

"Does gan yr Annibynwyr na'r Presbyteriaid ddim gweinidogion yn cael eu hyfforddi i wynebu'r dyfodol.

"Pan fydda i'n mynd o gwmpas mae'r cynulleidfaoedd yn oedrannus, mae cyfartaledd yr oedran yn ofnadwy o uchel. Rŵan dydych chi ddim eisiau genius i ddweud nad oes yna ddim dyfodol yn fanna," meddai.

Cwestiwn enwadaeth 'yn agored'
Gydag ef ar Bwrw Golwg yr oedd y Parchedig Meirion Morris, cyfarwyddwr cynllun AGAPE, a'r Parchedig Enid Morgan a fu'n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd Meirion Morris fod dyfodol enwadaeth yn gwestiwn sydd "yn agored" ar hyn o bryd.

"Yr hyn ydym ni'n gorfod ei wneud ydi delio efo'r hyn sydd gyda ni ac ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o eglwysi annibynnol ac eglwysi o enwadau eraill yn mynnu dal gafael yn eu henwadaeth ac mae hynny yn bwysig iawn iddyn nhw.

"Nawr mae gennym ni ddewis naill ai dweud fod hyn yn hollol annilys a dydyn ni ddim yn mynd i weithio efo'r bobl yma neu ein bod ni'n gwneud fel mae Aled yn awgrymu [ac] yn cael trafodaeth sut mae symud ymlaen yn fwy effeithiol, sut mae cenhadu yn fwy effeithiol.

"Ac os yw hynny'n golygu ein bod ni'n gallu gwneud hynny trwy yr enwadau sydd gyda ni neu wrth hepgor hynny, nawr mae hynny yn agored i weld beth sy'n briodol ar lawr gwlad lle mae Cristnogion yn tystiolaethu a lle mae eglwysi yn ceisio wynebu her genhadol y sefyllfa."

Creu alergedd
Cytunodd Enid Morgan nad oes yna "fawr ddim" cyhoeddi diwinyddol yn Gymraeg sydd yn cyffroi'r meddwl erbyn hyn.

Enid Morgan "Ac yn sicr ddim y math o sgrifennu sy'n estyn allan i gyfeiriad pobl yn ein cymdeithas ni.

"Y mae sŵn crefydda Cymraeg yn creu rhyw fath o alergedd fan hyn ac maen nhw jyst yn troi'r swits i ffwrdd ac yn aml iawn fyddai rhywun ddim yn eu beio nhw," meddai.

Ychwanegodd nad yr hyn sy'n cael ei wneud sy'n feius ond yr hyn sydd ddim yn cael ei wneud.

"Rhan o'n problem ni yw fod ein pobl ifainc, maen nhw i gyd yn astudio y cyfryngau yn hytrach na mynd i astudio Athroniaeth a Diwinyddiaeth a Hanes er mwyn gwneud gwir gyfraniad i feddwl go iawn am broblemau dwys ein bodolaeth ni ar hyn o bryd," meddai.

Defnyddio'r dychymyg
Dywedodd Aled Jones Williams mai ei ofn ef yw "fod pobl yn cael y syniad mai un safbwynt crefyddol sydd yna" sef y safbwynt ffwndamentalaidd efengylaidd.

"Iawn i'r bobl sydd yn dilyn hwnna ond mae yna safbwyntiau eraill felly mae eisiau dod a hwnnw i'r amlwg.

"Hynny ydi, defnyddio'r dychymyg. Mae'r efengylwyr wrth roi y pedair efengyl wrth ei gilydd wedi defnyddio'u dychymyg; mae o'n llawn o'u dychymyg nhw, maen nhw'n greadigol ac mae angen dod a hyn yn ôl," meddai.

"Mi cawsoch chi o yn y diwygiad Methodistaidd ond mae yna rywbeth andwyol wedi digwydd ac mae yna rhyw ddiffyg egni ac ynni a rydan ni wedi mynd i homar o dwll," meddai.

Tynnu'r deall drwy'r drain
Ond dywedodd Enid Morgan nad oedd hi'n hapus gyda'r gair 'dychymyg' fel ffordd o ddisgrifio'r traddodiad Cristnogol.

"Mae'n awgrymu mai dim ond oddi mewn i ni mae'r pethau yma yn digwydd ac nad ymateb ynom ni ydi ein crefydda neu ein bywyd ysbrydol ni.

"Rwy'n credu y dylai diwinydda fod yn broses llawer mwy poenus . Mae pethau yn llawer rhy gyfforddus o lawer yn ein trafodaethau ni ar hyn o bryd - mae'n fater o dynnu'n deall styfnig ni drwy ddrain a mieri ein hunan dwyll.

"Rydym ni'n twyllo'n hunain mor aml yn ein bywydau crefyddol ac mae angen maes lle gallwn ni fod yn onest am y pethau yma a'u trafod nhw gyda'n gilydd .

"Ble mae'r diwinyddion Cymraeg ar hyn o bryd fuaswn i'n lecio gwybod ac fe fyddwn i'n awyddus iawn i drio meithrin maes lle allwn ni ddod at ein gilydd," meddai.

Y drafodaeth yn parhau


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý