±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

±«Óãtv ±«Óãtvpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Rapsgaliwns
Ymroddiad dros wewyr yr ifanc
  • Alwyn Gruffydd yn adolygu cynhyrchiad Talaith y Gogledd, Cwmni Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd, o Rapsgaliwns yn Galeri, Caernarfon, Gorffennaf 9, 2008.


  • "Pwy faga blant - a thedi bêrs mor rhad?"
    Dyna sylw a glywir yn aml yn y cwmwd hwn pan fo plant neu bobl ifanc anystywallt yn mynd dros ben llestri.

    Ond ar ôl dweud hyn ceir sylwadau hefyd sy'n llawn mor amddiffynnol o'n hieuenctid megis: "Does dim plant drwg yma - dim ond direidus ydyn nhw".

    O bell
    A dyna ni mewn ychydig eiriau'n crynhoi'r berthynas gymhleth ac oesol rhwng y cenedlaethau - a thrafod yr holl fater astrus hwn o safbwynt y bobl ifanc wna Rapsgaliwns " (sic), sef cynhyrchiad Talaith y Gogledd, Theatr Genedlaethol yr Urdd eleni.

    "Y Gogledd," medda fi mor ffwrdd â hi a phe bawn i'n sôn am y pentref nesaf oherwydd ymysg y cast o 21 ar lwyfan Galeri, Caernarfon, roedd yna bobl ifanc o cyn belled i ffwrdd â Dyffryn Banwy, Bro Ddyfi, Dyffryn Clwyd, Bro Dysynni a Phenrhyn Llŷn.

    Mae hynny ynddo'i hun yn brawf o ymroddiad y pobl ifanc hyn i fyd y ddrama Gymraeg ac, yn eironig ddigon - o ystyried y pwnc - ac aberth eu rhieni hefyd yn eu cludo'n ddiflino i'r ymarferiadau.

    Caboli'r cwbwl
    Y cast eu hunain fu'n gyfrifol am esgyrn sychion y sgript gyda'r llenor ifanc, Gwenno Mair Davies o Lansannan, yn caboli'r cwbl yn un cyfanwaith derbyniol odiaeth.

    Gwenno Mair Davies ar y cyd ag Ian Selwyn Jones fu wrthi'n ddiwyd yn cyfarwyddo'r sioe yn llwyddiannus ar gyfer y llwyfan. Roedd y rapio'n drawiadol a'r ymladd, o dan gyfarwyddid Elain Llwyd, yn hynod realistig.

    Catalog o bryderon a gobeithion pobl ifanc yn eu harddegau geir yn "Rapsgaliwns". Nid yw'n gyfnod braf. Mae'n gyfnod o newid corfforol. Mae'n gyfnod o ansicrwydd dybryd.

    Dyna'r cyfnod y mae'n rhaid i bobl ifanc ymdopi â phobl hŷn sy'n eu gweld nhw i gyd drwy'r un llygad gyhuddgar.

    Hynny yw, os yw un person ifanc sy'n gwisgo dilledyn gyda hwd yn ymddwyn yn annerbyniol yna mae POB person ifanc sy'n gwisgo'r un dilledyn yn sicr o ymddwyn yn yr un modd.

    Wn o ddim beth y mae seicolegwyr yn galw'r math yna o ragfarn ond fe bortreadwyd y stereoteip hwn yn hynod effeithiol yn Rapsgaliwns wrth i'r nain fethu ag adnabod ei hwyres ei hun hyd yn oed cymaint ei rhagfarn.

    Arholiadau
    Wedyn, y mae yna'r athrawon ysgol ymwthgar a'r rhieni disgwylgar.
    Gyda lle i gredu bellach fod graddau arholiadau TGAU plentyn yn diffinio beth yw statws cymdeithasol y rhieni mae pwysau'r arholiadau'n cael lle blaenllaw yn Rapsgaliwns a chyflwynwyd hynny'n frawychus o amrwd yn y cynhyrchiad hwn.

    Yna daw'r berthynas rhwng y pobl ifanc â'i gilydd. Mae'r oedran yma, fel y mae plant, yn gallu bod yn greulon iawn. Mae elfennau'r bwli yn eu hamlygu eu hunain yn Rapsgaliwns naill ai drwy ymosodiadau corfforol ar y gwan a'r gwahanol, neu drwy edliw gwisg, pwysau corfforol, plorod neu nodweddion gwrywgydiol.

    Ychwanegwch gyfrifoldeb teuluol, rhyw a beichiogrwydd yna does yna ddim llawer ar ôl ac mae nhw'i gyd ym mhair y Rapsgaliwns.

    Hynod syml
    Mae'r set yn hynod syml - un mur graffiti ac un fainc wrth arhosfan bws - ond mae o'n ddigon.

    O ran y cyflwyniad ei hun nid oedd y ddarpariaeth sain ar ei orau ac o ganlyniad fe gollwyd ambell berl rwy'n siŵr.

    At ei gilydd chwaraeodd pob aelod o'r cast eu rhan yn ddigon deche gydag ambell un yn cario mantell mwy nag un cymeriad ond yn gwneud hynny'n effeithiol.

    Mae'r portreadau o'r ddwy hen wraig, y rhieni ymwthiol a'r gyflwynwraig deledu yn dangos talent ac aeddfedrwydd actorion mor ifanc. Nid fod hynny'n tynnu dim oddi ar y perfformiadau eraill ond fy mod i, yn fy oed a'm hamser, yn gallu uniaethu mwy gyda'r cymeriadau hÅ·n yn y cynhyrchiad.
    Henaint sy'n gyfrifol ac rwy'n ymddiheuro am hynny i weddill y cast!

    Dosbarth canol
    Rhaid i mi gyfeirio at fater bach arall hefyd a'm tarodd yn ystod y perfformiad o. Cynhyrchiad plant dosbarth canol ar gyfer cynulleidfa dosbarth canol gafwyd yn y sioe - rhyw fath o Grease ar newydd wedd os mynnwch chi.

    Ac fel yn Grease mae yna un eithriad yn Rapsgaliwns hefyd a hwnnw'r tro yma yw'r hwdi mileinig. Ond mae yna resymau am ei ymddygiad yntau ac fel ei gyfoeswyr mwy ffodus nid yw hwn ychwaith heb ei hunllefau - a dweud y gwir mae hunllefau hwn yn llawer iawn gwaeth ac yn ennyn llawer iawn mwy o gydymdeimlad.

    Nid yn llawn
    Nid oedd Galeri yn llawn o bell ffordd ar gyfer unig berfformiad o Rapsgaliwns yn y gogledd. Mae hynny beth amheuthun pan y ceir cymaint o bobl ifanc yn ymddangos ar lwyfan gyda phob perthynas ers oes Adda, fel arfer, yn dringo waliau'r theatr er mwyn cael cip o'r actor yn y teulu.

    Ond peidied â phoeni.
    Daw cyfle arall i weld "Rapsgaliwns" a hynny am 4.30 o'r gloch, ddydd Iau, Awst 7, 2008, yn Theatr y Maes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd aqc os y methwch chi hi'r eildro yna eich colled chi fydd hi!

  • Adolygiadau eraill o gynyrchiadau 2008 Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý