±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

±«Óãtv ±«Óãtvpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gareth BaleHamlet - adolygiad 1
Dan gysgod râs arfau
  • Bu Gwyn Griffiths yn gweld perfformiad Traws Cymru o gynhyrchiad Michael Bogdanov o gyfieithiad Cymraeg Gareth Miles o Hamlet William Shakespeare yn Y Theatr Newydd, Caerdydd.

    Bogdanov Naws filitaraidd, fygythiol, gyfoes, sydd i gynhyrchiad Michael Bogdanov o Hamlet ar gyfer cwmni Traws Cymru.

    Mae'n cychwyn gyda sŵn prysur y paratoi wrth i'r milwyr a'u tanciau a'u hoffer grynhoi ar ffiniau Denmarc.

    Mae'r sefyllfa wleidyddol yn fregus; tad Hamlet wedi lladd Brenin Norwy mewn rhyfel rhwng y ddwy wlad.

    Cymodir Fortinbras, mab Brenin Norwy, a Clawdiws, sy'n llywodraethu Denmarc.

    Yna mae Hamlet yn darganfod, drwy Ysbryd ei dad, iddo gael ei ladd gan ei ewythr, Clawdiws, sydd yn awr yn Frenin Denmarc.

    Ac yn gofyn i'r gŵr ifanc ddial y llofruddiaeth.

    Nid y darlun cyfarwydd o'r Hamlet athronyddol yn cael ei ysu gan amheuon sydd yma - er bod yna lawer o hynny - ond cynhyrchiad sy'n canolbwyntio ar agweddau gwleidyddol y ddrama wrth i'r wlad baratoi am ryfel mewn râs arfau bedair awr ar hugain.

    Ymwrthod â chyfrifoldeb
    Mae'r sefyllfa yn mynd yn fwy bregus o ganlyniad i simsanrwydd Hamlet sy'n ymwrthod â'i gyfrifoldebau ac oherwydd ei berthynas "myfyriwr aeddfed" gydag Offelia, merch bedair ar ddeg oed Poloniws, Prif Gynghorydd y Brenin.

    Mae Hamlet yn lladd y Poloniws busneslyd a Chlawdiws yn ei anfon i Loegr gan fwriadu iddo gael ei ladd yno ond y mae'n gweld drwy'r cynllwyn ac y mae Rosencrants a Gildenstern yn cael eu lladd yn ei le.

    Mae'n cyfarfod â Fortinbras sydd ar ei ffordd - gyda chaniatâd - ar draws Denmarc i ymosod ar Wlad Pwyl.

    Mae Hamlet yn dychwelyd a Chlawdiws yn cynllwynio i'w orfodi i ymladd Laertes, mab Poloniws a brawd Offelia - sydd hefyd yn farw, wedi boddi ei hun o dor-calon.

    Yr oedd yr olygfa o'r frwydr gleddyfau a'r gwenwyno yn ardderchog.

    Cyrff ym mhobman
    Kathryn Dimery fel Gertrwd Erbyn y diwedd - yn y traddodiad Shakespearaidd - mae cyrff dros bob man, Gertrwd, mam Hamlet oedd wedi priodi Clawdiws; Clawdiws, Laertes achyd yn oed Hamlet ei hun i gyd yn feirw a'r wlad ar drugaredd Norwy.

    Cafwyd sawl perfformiad cofiadwy yn y cynhyrchiad, megis Ieuan Rhys yn rhan Rosencrants a Dyfrig Morris fel Gildenstern, dau thyg twp o argyhoeddiad - cyfeillion Hamlet, ond yn ysbïo arno yr un pryd.

    Meim Siapaneaidd
    Un o emau'r perfformiad oedd golygfa'r actorion a berfformiwyd fel meim Siapaneaidd yn yr ail olygfa o'r drydedd act.

    Ceir darn gwych o theatr yma lle mae Hamlet, drwy gyfrwng yr actorion, yn datgelu i'w fam Gertrwd ac i Clawdiws ei fod yn gwybod sut y bu i'w dad farw.
    Yr oedd y ddeialog yma rhwng Offelia a Hamlet yn odidog.

    Yr oedd Owen Garmon yn ardderchog fel yr hirwyntog Poloniws, rhwysgfawr a chynllwyngar.

    Rhaid canmol perfformiad Catrin Rhys fel Offelia.

    Gareth Bale O blith nifer o berfformiadau canmoladwy eraill yr oedd Gareth John Bale fel Hamlet a Julian Lewis Jones fel y Brenin Clawdiws, thyg arall oedd yn argyhoeddi.

    Bale yw'r unig un nad yw'n chwarae yn y cynhyrchiad Saesneg sy'n rhedeg ochr yn ochr a'r un Cymraeg.

    Yn wir, daeth ef i'r rhan yn hwyr yn dilyn anhawster actor arall i chwarae'r rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg.

    Rhaid edmygu a llongyfarch gwaith yr actorion bob un; yn perfformio'r ddrama yn y ddwy iaith "gefn wrth gefn", camp fawr iawn, goelia i.

    Y cyfieithiad
    O ddiddordeb arbennig yr oedd cyfieithiad Cymraeg newydd Gareth Miles o'r ddrama.

    Llifai'n rhwydd ac yr oedd yn hawdd i'w dilyn a bydd llawer yn edrych ymlaen at ei ddarllen wrth eu hamdden gan na ellir llawn werthfawrogi'r gwaith o'i glywed dim ond unwaith ar lwyfan.

    Hyderaf y caiff ei gyhoeddi'n fuan.

    Smocio
    Ac un cwestiwn gwamal i fyfyrio drosto am y cynhyrchiad.
    Pan ddaw'r deddfau newydd ynglŷn â smocio mewn lleoedd cyhoeddus i rym, a ganiateir smocio ar lwyfan?

    Y mae llawer iawn o smocio yn y cynhyrchiad hwn!

    Ac, o ddifrif, a oedd hynny yn briodol gan nad oes i smocio heddiw y ddelwedd soffistigedig a feddai, dyweder, yn y pumdegau? Gellir codi'r pwynt hefyd a yw brwydr gleddyfau Hamlet a Laertes yn cyd-weddu'n esmwyth â thanciau a throsglwyddyddion negeseuon lloeren.

    Ar y llaw arall, pa ffordd well sydd yna i gyfuno gwenwyno a brwydr?

    Un o broblemau gosod hen ddrama mewn diwyg gyfoes, mae'n debyg.

  • Bydd Hamlet i'w gweld yn y Theatr Newydd Caerdydd tan Dachwedd 12.
  • Wedyn bydd yn y Torch, Aberdaugleddau, Tachwedd 14 - 16.
  • Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, Tachwedd 17 - 19.
  • Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, Tachwedd 21 - 24. Cysylltiadau Perthnasol
    Adolygiad gan Grahame Davies


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý