±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

±«Óãtv ±«Óãtvpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mirain Haf ac Elain Llwyd a gymerai ranDigon o'r Sioe
Gwledd gymysg Glanaethwy
  • Adolygiad Catrin Jones o Digon o'r Sioe, gan Ysgol Glanaethwy. Theatr Gwynedd. Ebrill 1, 2006.


  • Pan glywais fod Ysgol Glanaethwy am greu perfformiad a fyddai'n rhoi blas o gynyrchiadau'r gorffennol roeddwn yn edrych ymlaen at wledd o ganeuon theatrig.

    Bu'r ysgol yn llwyfannu sawl cynhyrchiad llwyddiannus dros y blynyddoedd ac ar ôl denu cynulleidfaoedd i Theatr Gwynedd dros y pymtheng mlynedd diwethaf roedd hi'n addas iawn edrych yn ôl eleni.

    Gan fy mod wedi gweld nifer o sioeau'r gorffennol ac yn hoff iawn o ganeuon y sioeau cerdd edrychwn ymlaen at glywed rhai o'r hen ffefrynnau. A chyda'r deunydd hysbysebu yn addo "cyfle i ail-fyw rhai o uchafbwyntiau'r blynyddoedd a fu, ail brofi rhai o glasuron sioeau cerdd y West End a hefyd blasu rhywfaint o waith diweddara'r ysgol" roedd yn argoeli'n dda am noson hwyliog.

    Byd y sioeau
    Roedd naws byd y sioeau i'w deimlo o'r dechrau gyda'r cyfeilydd ar y piano yn ein diddanu wrth inni ddod i mewn i'r theatr.

    Dechreuodd yr hanner cyntaf gyda gwledd o'r sioeau a chawsom berfformiadau o Cwsg Osian o Nia Ben Aur ac Er Hwylio'r Haul o'r sioe o'r un enw.

    Yna daeth I Got Rhythm o Crazy for You, Mister Cellophane o Chicago a dwy gân o 3-2-1 sef Weithiau a Iesu Yw.

    Cafwyd caneuon o gynyrchiadau'r ysgol yn y gorffennol hefyd gan gynnwys cân o Chwain a Magdalen.

    Daeth y rhan gyntaf i ben gyda Fan Acw, cyfieithiad o'r gân enwog From a Distance oedd yn gân bwerus i gloi'r hanner cyntaf.

    Tipyn o syndod
    Wedi mwynhau'r rhan gyntaf roeddwn i'n edrych ymlaen at weld pa ffefrynnau oedd yn ein haros yn yr ail ran. Ond cefais dipyn o syndod nad cân o unrhyw sioe oedd y dewis cyntaf ond Cân Mair, carol sy'n cael ei chanu ar gryno ddisg yr ysgol.

    Ond cafwyd perfformiad arbennig gyda llais yr unawdydd, Mirain Haf, yn gweddu'n berffaith i'r gân.

    Ond mae'n rhaid i mi ddweud i mi gael fy siomi wedyn pan ddaeth Cefin Roberts i'r llwyfan a dweud nad caneuon o'r sioeau cerdd fyddai'r ddwy nesaf ychwaith ond caneuon y bydd yr ysgol yn eu canu yn Yr Eidal ymhen ychydig - y gyntaf yn gân glasurol a'r ail yn gân tafod yn y boch am fyd opera a chanu ffug.

    Er bod y perfformiadau'n safonol a thipyn o chwerthin ymhlith y gynulleidfa yn ystod yr ail gân, Italian Salad teimlaf i'r newid amharu ar rediad y cynhyrchiad.

    Yn wir, digwyddodd yr un peth hefyd yn y rhan gyntaf gydag eitem dawnsio disgo yng nghanol y caneuon o'r sioeau.

    Byddai wedi bod yn well cadw at y thema Digon o'r Sioe yn fy marn i gan i'r symud oddi wrth hynny amharu ar naws y cynhyrchiad fel cyfanwaith.

    Yn ôl i Gymru
    Ar ôl cael ein tywys i'r Eidal daethom yn ôl i dir Cymru gyda Nos Da Nawr o Dylsecsia a detholiad o ganeuon Ryan Davies.

    Yn dilyn hynny daeth amryw o ganeuon o'r jazz i'r cyfoes gyda chân o'r sioe Chwain, sef Dim Lle i Ferch, yn sôn am fyd y theatr ac nad oedd lle i ferched ar y llwyfan yn y gorffennol, a chân o'r sioe Rent a Swn y Jazz o Chicago.

    Daeth y noson i ben gyda pherfformiad arbennig o Rhythm y Ddawns, o Sweet Charity sy'n ddewis poblogaidd gan gorau ac a oedd yn ddiweddglo gwych i'r noson, a'r perfformwyr yn llawn "asbri yn y galon ac ynni yn y traed" yng ngeiriau'r gân.

    Digon o amrywiaeth
    Rhaid canmol yr holl berfformiadau, roedd y canu'n wych a'r symud yn ychwanegu at hynny a chafwyd sawl cân gofiadwy.

    Yn sicr roedd digon o amrywiaeth o'r llon i'r lleddf, o'r araf i'r hwyliog a'r gynulleidfa i'w gweld yn mwynhau'r arlwy.

    Hefyd, rhaid canmol perfformiadau'r unawdwyr oedd yn hynod o broffesiynol.

    Roedd safon y cyfeilio hefyd yn rhagorol ac yn sylfaen gadarn i'r cynhyrchiad.

    Dim rhaglen
    Yn anffodus doedd dim rhaglen ar werth er y byddai un wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn inni wybod pa ganeuon a berfformiwyd ac o ba sioeau y daethant.

    Roedd rhai o aelodau'r ysgol yn enwi rhai ohonynt er mwyn pontio rhwng y golygfeydd a gwnaed hyn gyda llawer o'r caneuon Cymraeg, ond nid gyda phob cân o'r sioeau Saesneg.

    Yn yr ail ran daeth Cefin Roberts i'r llwyfan sawl tro i egluro cefndir rhai o'r caneuon ac ychwanegodd y manylion hynny at fy mwynhad. Trueni na chafwyd hynny gyda chaneuon y rhan gyntaf.

    Ond wedi dweud hynny dim ond diffyg bychan oedd hynny mewn cynhyrchiad gwefreiddiol a oedd yn deyrnged deilwng iawn i waith yr ysgol dros y degawd a mwy ers ei ffurfio.

    Edrychaf ymlaen at fwy o gynyrchiadau safonol yn y dyfodol.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý