±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

±«Óãtv ±«Óãtvpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Breuddwyd BranwenBreuddwyd Branwen
Newydd gychwyn ar daith o amgylch Cymru mae'r panto, Breuddwyd Branwen
Mae rhywbeth arbennig ynglŷn â'r modd y mae plant yn ymateb i gymeriadau pantomeim - fel pe bydde nhw'n gwybod yn reddfol pwy yw'r bobl dda a phwy yw'r cnafon drwg.

Doedd Efnisien (Huw Garmon) ddim wedi ymddangos yn iawn ar y llwyfan cyn i'r bwïan gychwyn. Cyn i'r mellt fflachio a'r mŵg ledu ar draws y llwyfan roedd disgyblion Rhydywaun a Bro Eirwg yn bonllefain am ei waed.
A Matholwch (Llyr Williams) yn denu'r gymeradwyaeth fwyaf gwresog.

Brwd a chroch
Yn y Coliseum, Aberdâr, roedd cynhyrchiad Cwmni Mega, Breuddwyd Branwen gan Arwel John, Breuddwyd Branwen yn cychwyn taith ar hyd a lled Cymru ac yn sicr roedd y croeso i'r perfformiad cyntaf yn frwd a chroch.

Mae'r argoelion yn dda am daith lwyddiannus arall gan Ddafydd Hywel a'i griw.

Y Drudwy (Meleri Bryn) oedd prif gynheiliad y stori yn codi stêm y gynulleidfa'n egnïol gydag ystrywiau cyfarwydd.

Roedd hi'n gastio addas iawn i'r rhan; yn fywiog a sionc a rhyw dinc adarol priodol i'w llais.

Ac roedd hi'n fychan, yn enwedig ochr yn ochr â'r cawr camp a thrwsgl Bendigeidfran (Erfyl Ogwen Parry).

Fe wnaeth Arwel John waith da gyda'r stori, gan sicrhau y bydd y plant yn cael crap go lew ar y stori ond gan addasu tipyn ar y diwedd ac ar ambell fan arall.

Rhaid wrth dipyn o ramant a fedren ni ddim mynd oddi yno yn rhy ddigalon a thrist, fedren ni?

Jôcs cyfoes
Ac ni fyddai unrhyw bantomeim yn bantomeim heb jôcs cyfoes - ac fe gawson ni dipyn o hwyl ar gorn Who Wants to be a Millionaire, Pobol y Cwm ac Aer Lingus.

Tara Bethan oedd Branwen, nid un o rannau amlycaf y stori Tara Bethanond fe wnaeth hi'n fawr o bob cyfle ac fe welsom ei hamrywiol ddoniau disglaer - canu, dawnsio ac action.

Ac y mae stori sy'n uno Cymru (neu Ynys y Cedyrn) ac Iwerddon (Yr Ynys Werdd) yn gyfle gwtch i ganu a dawnsio.

Rhaid sôn yn arbennig am y dawnswyr dan law coreograffydd ardderchog, Cathy Hurley. Campus.

Fel y dywedodd un o ddigyblion 14 oed Ysgol Gyfun Rhydywaun - roedd yn berfformiad "awesome".

Ni allai unrhyw adolygydd ddweud yn well. Pob hwyl i'r criw ar y daith.
Gwyn Griffiths

Manylion y daith
Holwch yn lleol i drefnu
Tachwedd:
22 - 23: Theatr Elli, Llanelli. 10.00 ac 1.00
25 - 26: Theatr Dwyfor, Pwllheli. 10.00 ac 1.00.
30: Y Pafiliwn, Y Rhyl. 10.00 ac 1.00.

Rhagfyr
1: Y Stiwt, Rhosllannerchrugog. 10.00 ac 1.00.
2 - 3: Theatr Hafren, Y Drenewydd. 10.00 ac 1.00.
6 - 7: Theatr y Wein, Aberystwyth10.00 ac 1.00.
9 - 17: Theatr Gwynedd, Bangor. (Sioeau bore am 10.00 bob dydd ar wahân i Sadwrn 11 a Sul 12 am 2:00. Sioeau pnawn am 1.00 Rhagfyr 1 - 7 ac am 1.30 weddill yr ymweliad ar wahân i 7.00 Sadwrn 11.

Ionawr
10- 11: Neuadd y Gweithwyr, Coed Duon,10.00, 1.00.
15 (7.30), 17 - 21: Theatr y Muni, Pontypridd. 10:00, 1.00.



cyfannwch

Osian
Rwy'n mwynhau'r wefan, yn enwedig yr adolygiadau o sioeau theatr. Rwy'n sylwi nad ydych eto wedi adolygu'r panto Cymraeg, "Hela'r Twrch Trwyth" gan Gwmni Mega. Mae'r adolygiadau ac erthyglau ar y wefan yn creu archif ddifyr a phwysig o weithgareddau Cymraeg a Chymreig, tybed oes bwriad gennych adolygu'r sioe?



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý