±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

±«Óãtv ±«Óãtvpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Huw Garmon fel Philippe a Mirain Haf fel Selina Cariad Mr Bustl
Bustl blasus - 'Cynhyrchiad sy'n deilwng o Theatr Genedlaethol'
  • Adolygiad Lowri Rhys Davies o Cariad Mr Bustl, Molière - cyfieithiad Gareth Miles. Theatr Genedlaethol Cymru. Mai 2007.

    Glywsoch chi'r jôc am gomedïau Cymraeg?
    Naddo, na finna chwaith.

    Ond gan fod y dychanol a'r doniol yn greaduriaid mor brin yn ein traddodiad theatrig, a chynyrchiadau Cymreig o waith Molière yn brinnach fyth, mae'n rhaid cymeradwyo'r Theatr Genedlaethol am lwyfannu cyfieithiad o Le Misanthrope fel cynhyrchiad olaf 'Tymor y Clasuron'.

    Llun gan yr artist o Landeilo, Meirion Jones, a gomisiynwyd ar gyfer y daith Roedd hi'n dipyn o job cael tocyn ar gyfer Cysgod y Cryman ddechrau'r flwyddyn gan fod y wlad a'i nain wedi darllen y nofel neu wylio'r gyfres deledu, ac felly'n fwy na pharod i fynychu llwyfaniad o epig Islwyn Ffowc Ellis.

    Ac ar ôl llwyddo i gael sedd nos Sadwrn yn y Sherman, noson hynod siomedig ges i wrth wylio addasiad Sion Eirian.

    Ond er gwaetha'r ffaith fod yr un theatr yn gymharol wag ar gyfer noson agoriadol Cariad Mr.Bustl, siom ar yr ochr orau ges i Mai 3.

    Molière yn dychryn?
    Roedd hi'n noson etholiad, yn dywydd barbeciwaidd o braf, yn nos Iau a sawl rheswm arall pam mai tenau iawn oedd y gynulleidfa; ond efallai fod Molière ddieithr yn dueddol o ddychryn y gynulleidfa Gymreig yn yr un modd ac y mae Ffowc Elis yn ei hatynnu.

    Ac mae hynny'n bechod gan fod hwn yn gynhyrchiad safonol.

    Y Dyngasawr neu'r Bustlog Cariadus yw'r cyfieithiad llythrennol o Le Misanthrope - ond Cariad Mr Bustl yw teitl drama Gareth Miles ac mae symlrwydd bachog y teitl yn rhagflas o ystwythder ei addasiad.

    Mae drama wreiddiol Molière wedi ei gosod yn llys Louis XIV, gyda chast o uchelwyr Ffrengig yr ail ganrif ar bymtheg "a gyfnewidiodd rym gwleidyddol yn eu cynefinoedd am segurdod moethus Llys Versailles a bywyd o hel clecs a chrafu am anrhydeddau a swyddi".

    Fel Charlotte Church
    Yn y cynhyrchiad hwn, mae'r deunydd crai dramatig wedi ei drosglwyddo i gymdeithas bourgeois Tridegau'r ganrif ddiwethaf, lle mae hierarchaeth gymdeithasol yn parhau'n berthnasol.

    Ni fu uchelwriaeth yn rhan o draddodiad Cymru ers y canol oesoedd wrth gwrs ond mae elfennau o ddrama Molliere, a'r trafodaethau ar natur ragrithiol yr hil ddynol yn arbennig, yn berthnasol i bob oes.

    Yn wir, mae Gareth Miles wedi disgrifio cymeriad Selina fel Charlotte Church ei chyfnod - yn ifanc, deallus, ffraeth a chyfoethog - ac mae Mirain Haf yn llwyddo i gyfleu natur chwareus yr It Girl i'r dim drwy gyfuno'r elfen o fflyrt digywilydd sy'n cynddeiriogi cymaint ar Mr Bustl, gyda chryfder bolshi, benywaidd y gantores o Gaerdydd sy'n benderfynol o fwynhau hedonistiaeth ei hieuenctid.

    Sebon a gwawd
    Cariad Mr. Bustl yw Selina, ond dim ond un o'r nifer o edmygwyr sy'n ymweld a'i salon yw Alex (Jonathan Nefydd).

    Mae dynion yn galw'n gyson i gael eu diddanu gan Selina sy'n giamstar ar seboni ar y naill law, a gwawdio'n adloniadol ar y llaw arall.

    Jonathan Nefydd Yn anffodus, mae'r fath weniaethu neu ffalsio yn atgas gan Alex sy'n teimlo rheidrwydd parhaol i fod yn greulon o onest gyda'i gyfeillion yn ogystal â'i elynion.

    Mae'n gwrthod 'arbed neb rhag gonestrwydd', ac mae hynny'n ei arwain i dantro'n ddidrugaredd a chael ei hun mewn dyfroedd dyfnion drwy gydol y ddrama.

    Nid ffars ydy Cariad Mr. Bustl ond comedi syniadol, sy'n rhoi lle canolog i ymresymu gwallgo, ond digon crafog, y prif gymeriad. v
    Yr eironi mawr, wrth gwrs, yw fod Mr. Bustl yn syrthio mewn cariad â gwraig weddw ddeniadol sy'n ymgorfforiad o ragrith y gymdeithas mae'n ei dirmygu.

    Carped a mainc
    Ac eto, nid yw Alex yn gallu gadael.
    Mae'r set syml, ond soffistigedig, yn cynnwys carped mawr a mainc wen wedi'u gosod dan glamp o siandelier ac mae nifer o ddrysau'n arwain y cymeriadau i salons personol y merched a'r byd tu allan.

    Alcasto (Seiriol Tomos) a  Colimandro (Glyn Morgan) Ond er gwaethaf bravado Mr.Bustl ynghylch ymwrthod â'r gymdeithas fas mae'n rhan ohoni, nid yw byth yn mynd trwy ddrws heb dychwelyd trwy'r llall, ac er ei fod yn mynd i'r corneli eithaf nid yw'n mentro camu dros ymyl y carped.

    Cyfarwyddo cynnil Judith Roberts sy'n gyfrifol am hynny, ac mae'n gosod sglein ar gynhyrchiad sy'n deilwng o waith Theatr Genedlaethol.

    Sgript a phrofiad
    Ond sgript Gareth Miles a chast profiadol yw prif gryfderau Cariad Mr. Bustl. Mae'r cyfieithiad Cymraeg yn gyforiog o ddywediadau bachog a hiwmor crafog sy'n llwyddo i gyfleu deallusrwydd a doniolwch y gwreiddiol.

    Mae hefyd yn galluogi'r cymeriadau i sarhau ei gilydd gyda steil - oes gwell ffordd o ddychanu rhywun na'i alw'n 'arch-lembo'?! - a chadw'r cydbwysedd rhwng plannu cyllyll mewn cefnau a chynnal yr hiwmor angenrheidiol.

    Rhian Morgan Mae Jonathon Nefydd yn serennu, a pherthynas Alex gyda Selina'n argyhoeddi o'r cychwyn cyntaf, ond mae'n rhaid canmol Rhian Morgan, Dyfrig Morris a Huw Garmon yn ogystal.

    Wedi dweud hynny, roedd perfformiadau'r mân gymeriadau'n gwegian ar brydiau, ac roeddwn i'n hynod siomedig mai prin hanner dwsin o eiriau gafwyd gan actor mor brofiadol â Llion Williams sy'n chware rhan gwas Mr.Bustl tua diwedd y ddrama.

    Ond mân wendidau yw'r rhain mewn gwirionedd.

    Yn dilyn sawl siom dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cariad Mr Bustlwedi dechrau adfer fy ffydd yn ein Theatr Genedlaethol.

    Dim ond gobeithio mai parhau i ddatblygu a gwella wnaiff hi o hyn allan.

    Y daith drwy Gymru
  • Theatr Sherman, Caerdydd, nosweithiau Iau a Gwener, Mai 3-4 Mai, 2007
  • Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe, nosweithiau Iau a Gwener, Mai 10-11, 2007.
  • Theatr Gwynedd, Bangor, nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, Mai 15-18, 2007.
  • Theatr Bloomsbury, Llundain, ar nos Fawrth, Mai 29, 2007. • Canolfan Celfyddydau Aberystwyth nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mehefin 1-2, 2007.
  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, nos Fawrth, Mehefin 5, 2007.
  • Theatr Mwldan, Aberteifi, nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mehefin 8-9, 2007.
    Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30.
    Bydd ymweliad â Llundain hefyd yn dilyn llwyddiant un tebyg gyda Cysgod y Cryman





  • cyfannwch

    Huw evans , Abertawe
    wedi joio y cynhyrchiad yn fawr iawn . set , cynllunio a cerddoriaeth da iawn . Jonathan Nefydd a Rhian Morgan yn wych !!

    Catrin Alun, Abertawe
    Newydd ddod nol o'r Taliesin ar ol mwynhau bob eiliad o'r perfformiad. Yr actio'n wefreiddiol. Triwch gael tocynnau digon agos i weld wynebau'r actorion - bydd hynny'n ychwanegu at y mwynhad. Ac roedd campau corfforol Mr Bustl yn wych - a'r defnydd o'r rhosyn ... wel, ewch i'w weld!! Dwi'n ystyried mynd eto!!



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý