Model datblygu grŵp
Gwnaeth Bruce Tuckman lawer o ymchwil i waith tîm effeithiol hefyd. Datblygodd y model datblygu grŵpModel sy’n disgrifio pum cam y broses o ddatblygu tîm neu grŵp - ffurfio, stormio, normio, perfformio ac ailstrwythuro..
Yn ystod ei ymchwil, sylwodd nad yw timau’n cychwyn fel uned gwbl effeithiol. Yn hytrach, er mwyn dod yn gwbl effeithiol, mae angen iddynt fynd drwy nifer o gamau.
- ffurfio Cam cyntaf model datblygu grŵp Tuckman pan nad oes llawer o gynnydd i’w weld. – Dyma pryd mae aelodau’r grŵp yn cyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf. Ni fydd llawer iawn o gynnydd yn cael ei wneud yn y cam hwn oherwydd bydd pawb yn canolbwyntio ar ddod i adnabod ei gilydd a cheisio creu argraff.
- stormioAil gam model datblygu grŵp Tuckman pan fydd y rhan fwyaf o’r anghytuno’n digwydd. – Mae’n debygol bydd rhywfaint o anghytuno yn ystod y cam hwn. Bydd aelodau’r tîm yn cyfrannu syniadau, a bydd hyn yn profi gallu’r grŵp i gyfaddawdu a chytuno ar ffordd o symud ymlaen.
- normioTrydydd cam model datblygu grŵp Tuckman pan mae cynnydd yn dechrau cael ei wneud. – Ar ôl goresgyn unrhyw anghytundeb, mae’r cam hwn yn ymwneud â symud ymlaen a gwneud cynnydd. Dyma gyfle i roi rolau i wahanol aelodau o’r tîm os oes angen.
- perfformioPedwerydd cam model datblygu grŵp Tuckman pan mae’r cynnydd mwyaf yn cael ei wneud. – Dyma’r cam mwyaf cynhyrchiol. Mae’n anhebygol bydd anghytuno erbyn y cam hwn gan fod pawb yn gwybod beth mae’n ei wneud, ac erbyn hyn dylai’r tîm fod yn gweithio fel uned gwbl effeithiol.
- ailstrwythuroCam olaf model datblygu grŵp Tuckman pan fydd y tîm yn dod i ben. – Cafodd y cam hwn ei ychwanegu yn ddiweddarach ac mae’n disgrifio’r broses o ddod â’r profiad o weithio mewn tîm i ben a symud ymlaen at her newydd.
Effeithiolrwydd tîm
Mae cyflogwyr bob amser yn chwilio am bobl sy’n gallu gweithio’n effeithiol mewn tîm.
Mae llawer o swyddi’n galw am waith tîm, ac yn aml iawn bydd darpar gyflogwyr yn chwilio am enghreifftiau penodol o waith tîm i helpu i’w sicrhau y bydd unigolyn yn ffitio i mewn i’r sefydliad ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr.
Enghraifft bywyd go iawn
Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar dywedodd Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes mai gweithio mewn tîm yw un o’r sgiliau pwysicaf y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.