±«Óătv

Archwiliad sgiliau

Mae archwiliad sgiliau yn cael ei ddefnyddio er mwyn:

  • asesu arbenigedd rhywun mewn sgiliau amrywiol
  • canfod pa sgiliau mae angen eu datblygu

Teipia ‘archwiliad sgiliau’ neu ‘skills audit’ mewn peiriant chwilio i weld enghreifftiau lu o gwestiynau sy’n cael eu defnyddio i asesu arbenigedd mewn sgiliau amrywiol.

Mae archwiliadau sgiliau yn asesu arbenigedd mewn ffyrdd amrywiol. Er enghraifft, mae rhai archwiliadau sgiliau yn defnyddio , sef dull o roi statws coch, gwyrdd neu oren i nodwedd neu ddatganiad.

Archwiliad sgiliau yn defnyddio system sgorio goleuadau traffig.

Bydd archwiliadau eraill yn defnyddio system sy’n seiliedig ar rifau, ee

  1. anghytuno’n llwyr
  2. anghytuno
  3. cytuno
  4. cytuno’n gryf
Archwiliad sgiliau yn defnyddio system sgorio sy'n seiliedig ar rifau.

Y broses archwilio sgiliau

Mae pob archwiliad sgiliau i fod yn broses yn hytrach nag un digwyddiad.

Cam un

Defnyddio archwiliad sgiliau fel man cychwyn ar gyfer cynllunio gweithgaredd datblygu sgiliau yn y dyfodol.

Cam dau

Deall cryfderau a gwendidau presennol er mwyn cynllunio datblygiad mewn meysydd penodol.

Cam tri

Ar ĂŽl cwblhau gweithgareddau i ddatblygu meysydd penodol, bydd angen ac ystyried pa mor llwyddiannus oedd y gweithgareddau.

Cam pedwar

Yn dilyn hyn, mae’n bosibl bydd archwiliad sgiliau arall yn cael ei wneud er mwyn mesur cynnydd. Wedyn, bydd y broses yn dechrau eto.

Diagram llif Ăą'r labeli a ganlyn; Cynllunio, Datblygu, Myfyrio, Mesur cynnydd.