±«Óătv

Adnoddau cefnogi

Yn aml iawn bydd cyflwynydd yn defnyddio cymhorthion clyweledol i gefnogi'r cyflwyniad, er enghraifft taflen, darn o gerddoriaeth neu ddelwedd. Gallai hefyd ddefnyddio meddalwedd pwrpasol mewn cyflwyniad, fel PowerPoint neu Prezi.

Dylai beth bynnag sy’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cyflwyniad fod yn addas ar gyfer y cynnwys a dylai’r gynulleidfa allu ei weld neu ei glywed yn glir.

Gan gyfeirio’n benodol at feddalwedd cyflwyniadau, wrth ddefnyddio sleidiau bydd angen defnyddio:

  • ffont cyson
  • cefndir cyson
  • ffont sy’n ddigon mawr i’r rhai sy’n eistedd yng nghefn y gynulleidfa allu ei ddarllen

Wrth baratoi sleidiau:

  • paid Ăą defnyddio lluniau gyda chydraniad isel na
  • paid Ăą defnyddio testun mewn prif lythrennau (ac eithrio ar gyfer teitlau)
  • paid Ăą defnyddio gormod o destun ar un sleid – mae’r sleid yno i atgoffa’r cyflwynydd ac i ategu’r geiriau sy’n cael eu dweud
Merch yn gweithio tu îl i far. Ar y chwith mae fersiwn sydd wedi ei chywasgu ac sy’n aneglur. Ar y dde mae’r ddelwedd yn glir ac yn dangos manylder.
Image caption,
Er mwyn creu argraff dda mewn cyflwyniadau, defnyddia luniau clir gyda chydraniad uchel fel y ddelwedd ar y dde

Question

Beth sydd angen ei osgoi wrth gynllunio sleidiau ar gyfer cyflwyniad? Ceisia feddwl am o leiaf bum enghraifft gwahanol sy’n ymwneud ñ ffont, geiriau, delweddau a lliwiau.