±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Gwilym OwenMae yna rywbeth ynglyn â maes y 'Steddfod yma sy'n gwneud i bobl ddeud petha carlamus ac anystyriol - ond mae hynny yn dod yn eitha naturiol i'n Prif Weinidog annwyl Rhodri Morgan.

Ac yng nghyfarfod eisteddfodol Cymdeithas Cledwyn - delwedd Cymreictod simsan y Blaid Lafur yng Nghymru - bydd gan wlad y gân chwe llysgenhadaeth newydd led-led y byd cyn bo hir.

Agorir y gyntaf yn Efrog Newydd yn yr Hydref ond ddaru neb ofyn iddo pryd fydd yna do uwchben y twll mawr costus yna ym Mae Caerdydd. Mae'n amlwg mai pobl neis iawn ydi aeloda Cymdeithas Cledwyn.

Gwyrdd ac eilradd

Ac mi fydd angen dipyn o ddiplomyddiaeth enwog yr Arglwydd Cledwyn a Robyn Llyn yr Archdderwydd o fewn deuddydd.

Mewn llythyr yn un o bapurau trymion Llundain y bore ma mae o'n datgan mai "merely a green robe" gafodd y Fam Frenhines yng Ngorsedd y Beirdd - awgrym mai anrhydedd eilradd ydi'r Wisg Werdd.

Robyn a GwilymSut y bydd o'n cyfiawnhau gosodiad o'r fath i'r ugain ofydd newydd fydd o'n groesawu i'r cylch fore Gwener. A fydd o'n deud Cawsoch eich haeddiant "merely a green robe". Och!



A sôn am yr Orsedd gweld fod y Daily Post y bore ma yn cyhoeddi llun o dderwydd parchus yn hepian ar y llwyfan yn ystod seremoni coroni bnawn Llun. Ond pam cyhoeddi heddiw yn hytrach na ddoe - rhywun wedi bod yn cysgu tua phencadlys y Daily PostAi'r jôc a fethodd oedd hon?

Beirniadaeth lenyddol
Ac yn y Western Mail mae Menna Elfyn un o feirniaid y Goron yn cyfiawnhau'r gwobrwyo.

I mi meddai mae hon yn epig o gerdd ond ar hysbysfwrdd sydd ar safle ±«Óãtv Cymru mae Twm Morys yn cyhoeddi mai "llwyth o grap" yw'r gerdd yn ei farn ef ac un o'n prifeirdd.

Gelej inni weld
Dach ch'n gwbod be ydi ystyr y gair 'gelej'
- dwn inna ddim chwaith ac yn ôl rhai adroddiadau doedd gan lawer o'r rhai a welodd y sioe yn y pafiliwn neithiwr fawr o syniad beth oedd pwrpas y sioe ieuenctid amlgyfryngol o dan y teitl rhyfedd hwn.

Roedd rhai wedi syrthio i gysgu ac eraill wedi gadael cyn y diwedd. Tydi pobl yn anodd eu plesio.

Gyda llaw, beth ydi ystyr 'gelej'

Annhebyg at ei annhebyg
Enghraifft rwan o ieuo anghymarus - rhwng Cwmni sment o Sir y Fflint a Chwmni Strata Matrix o Aberystwyth.

Mae Castle Cement yn talu i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus ymchwilio i agweddau pobl tuag at y Brifwyl.

O heddiw ymlaen bydd tîm o ymchwilwyr yn holi eisteddfodwyr yn dwll am bopeth ynglyn â'r juncet a chyflwynir adroddiad i Gyngor y Steddfod.

Gyda nawdd Cwmni Sment siawns na fydd seiliau Prifwyl y dyfodol yn gadarn.

Elfed RobertsStalinaidd
A gorffen efo Elfed Roberts, bos y Sioe.

Darllen ar ddechrau'r Wyl fod y trwbadwr Meic Stevens am ryw reswm wedi disgrifio'r Cyfarwyddwr fel blydi Joseph Stalin.

Alla i yn fy myw ddeall pam. A deud y gwir, o'm rhan fy hun dwi'n gweld pennaeth y Sanhedrin yn ymdebygu fwy bob blwyddyn i Bill Clinton.

Dim ond o ran pryd a gwedd, cofiwch!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy