±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Wyddoch chi hyn?

Eglwys TyddewiUgain o ffeithiau diddorol - ac un dros ben - am Dyddewi a Sir Benfro


1 Aeth William Goncwerwr ar bererindod i Dyddewi.

2 Dywedwyd bod dwy bererindod i Dyddewi gystal ag un i Rufain a thair i Dyddewi gystal ag un i fedd Crist.

3 Tyddewi yw dinas leiaf Prydain.

4 Dim ond tri chloc sydd ar dwr y gadeirlan oherwydd na allai trigolion gogledd y ddinas godi digon o arian i sicrhau un.

5 Gerallt Gymro yw'r offeiriad enwocaf iw gysylltu â Thyddewi ond gwrthododd Brenin Lloegr ganiatâd iddo fod yn Esgob Tyddewi ddwywaith.

6 Bedyddiwyd Dewi Sant ym Mhorth Clais.

7 Yr oedd tref Penfro yn enwog am ei gwaith lledr, ei nyddwyr a'i theilwriaid.

8 Codwyd y bont dros Afon Cleddau yn y 1970au.

9 Sain Ffred yw'r lle pellaf yng Nghymru oddi wrth Loegr.

10 Disgrifiwyd gweddillion castell Dinbych y Pysgod gan Augustus John fel darn mawr o gaws wedi ei gnoi gan lygod mawr.

11 Morgeneu, a laddwyd gan forladron, oedd y cyntaf o esgobion Tyddewi i fwyta cig. Dwr a llysiau, yn cynnwys cennin, oedd cynhaliaeth Dewi.

12 Yn Abergwaun y ffilmiwyd Moby Dick.

13 Ar Chwefror 22, 1797 glaniodd 1,400 o Ffrancwyr yng Ngharreg wastad ger Abergwaun ond fe'u trechwyd gan ferched y cylch dan arweiniad Jemeima Nicholas wedi eu harfogi a phicwyrch a'u gwisgo mewn coch i ymddangos fel milwyr.

14 Yn ôl traddodiad nid oes afiechyd, gwenwyn na phechod yn nhir Penfro.

15 Y mae dwy Benfro - un Gymraeg ac un Saesneg gyda llinell bendant o Niwgwl i Amroth yn gwahanu'r ddwy ardal:
Mae dwy ochr yn Sir Benfro,
Un ir Sais ar llall ir Cymro.
Melltith Babel wedi rhannu
Yr hen sir or pentigili.

16 Dywedodd Gwenallt fod camu i Benfro fel camu i'r cynfyd.
Ir cynfyd y camwn wrth groesir ffin i Sir Benfro.

17 Yr enwocaf o feirdd Penfro yw Waldo Williams. Yr oedd yn saith oed cyn dechrau dysgu Cymraeg a hynny pan symudodd y teulu i'r Fynachlog-ddu.

18 Dyma bedwerydd ymweliad yr Eisteddfod a Phenfro: Abergwaun 1936; Hwlffordd 1972; Abergwaun 1986.

19 Mae dros 30 o gromlechi ym Mhenfro.

20 Credir mai almanac amaethyddol yw cylch o gerrig yn y gors fawr.

Ac un arall: Byddai pererinion o'r gogledd yn cychwyn o Dreffynnon gan alw yn Rhuthun, Y Bala, Dolgellau, Ystrad Fflur Llanbedr Pont Steffan Aberteifi gan dderbyn eu cymun olaf cyn cyrraedd Tyddewi yn Nanhyfer.






Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy