±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Iwerddon . . .Bydd blas Gwyddelig sicr i weithgareddau Pabell y Cymdeithasau rhwng un a dau yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Nhyddewi.



Trefnodd cymdeithas Fforwm Cymru y Newyn, a sefydlwyd i hyrwyddo'r berthynas rhwng Cymru ac iwerddon, gyfres o ddarlithoedd yn y babell rhwng 1.00 a 2.00 or gloch bob dydd, dan y teitl cyffredinol, Dwylo dros y Môr.

Dydd Llun:
Dr. Diarmait Mac Giolla Chrost: 'Cynllunio Iaith: Cyfnewid Celtaidd Cyfoes?'

Un o Derry yng Ngogledd Iwerddon, siaradwr Gwyddeleg, a chyn-ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ond ar hyn o bryd yn gweithio i Gyngor Sir Gaerfyrddin yn Adran y Prif Weithredwr fel cydlynydd polisi corfforaethol gyda chyfrifoldeb arbennig dros bolisi iaith Gymraeg.
Cadair: Cynog Dafis, AC.
Cyn y ddarlith bydd Jim Carroll, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru, yn lansio'r gyfres gan siarad mewn Gwyddeleg gyda'i sylwadau'n cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ar y pryd.

Dydd Mawrth:
Dr. Dewi Evans, Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Dulyn: 'Teithwyr a Dylanwadwyr'
Gerallt Gymro; Edward Llwyd; llyfrau Cymraeg yn trafod Iwerddon; llyfrau Gwyddeleg yn trafod Cymru.

Cadair: Y Tad John of the Cross Fitzgerald, O.Carm, Caplan y Brifysgol, Aberystwyth.

Dydd Mercher:
Y Tra Barchedig J. Wyn Evans, Deon Tyddewi - "Saint a Chenhadwyr".

Cadair: Y Canon Pádraig Fiannachta, Offeiriad y Plwyf, An Daingean, Swydd Ciarra, Iwerddon.

Treuliodd Canon Fiannachta, sydd yn rhugl yn y Gymraeg, flynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Maynooth lle cyfieithodd y Beibl i'r Wyddeleg.

Roedd ei gyhoeddi yn gyfrol hardd ac wedyn yn gryno ddisg yn garreg filltir yn hanes yr iaith.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy