±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Cyflwyno'r GoronWrth gynllunio'r Goron ar gyfer Eisteddfod Tyddewi symylrwydd bywyd Dewi oedd pennaf ystyriaeth David Petersen.



Er wedi ei gwneud yng Nghymru gafael yr Unol Daleithiau sydd ar Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.

Mae wedi ei gwneud gan fab i un o bencampwyr bocsio Prydain.

A dywedodd David Petersen - mab Jack Petersen - ei fod yn cyfrif cynllunio'r goron yn anrhydedd mwyaf ei fywyd.

Mae Petersen yn un o gerflunwyr mwyaf blaenllaw Cymru a dywedodd iddo gadw symlrwydd bywyd Dewi Sant mewn cof wrth fynd ati i gynllunio'r goron.

Dyna pam nad oes unrhyw fetelau neu gerrig gwerthfawr ynddi hi. Fe'i gwnaeth yn hytrach o haearn bwrw gyda charreg las y Preseli yn lle gemwaith.



Cyflwyno'r goron Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America - corff sy'n hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o Gymru yn yr Unol Daleithiau - sydd wedi talu am y goron.

Sefydlwyd y mudiad yn 1980 ac mae'n cael ei redeg gan ddau fwrdd, un yng Nghymru a'r llall yn yr Unol Daleithiau.

"Nod y mudiad yw creu ymwybyddiaeth o gyfraniad Cymru i hanes yr Unol Daleithiau," meddai J. Bryan Jones, ysgrifennydd SCCA.

"Mae'n anhygoel faint o gyfraniad fu yna a pha mor allweddol fu mewnfudwyr o Gymru yn hanes y wlad."

Yng Nghymru bu SCCA yn gosod placiau yn coffau Americaniaid amlwg o dras Gymreig fel yr un i'r Arlywydd cyntaf, Thomas Jefferson, ar lan Llyn Padarn yn Eryri.

Gosodwyd hefyd sedd o lechen y tu allan i neuadd y ddinas yn Nhyddewi.

Er 1980 mae 'r mudiad wedi cyfrannu £130,000 mewn ysgoloriaethau.

"Yn ogystal â rhoi'r goron eleni yr ydym y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf yn noddi cystadlaethau cerdd yn y Genedlaethol gydag ysgoloriaethau," meddai Bryan.

"Ond ein prif weithgarwch y flwyddyn nesaf fydd dathlu canmlwyddiant geni y cerddor Joseph Parry," ychwanegodd.

Ond cyn hynny bydd edrych ymlaen i weld pwy fydd wedi ennill coron unigryw David Petersen a gynlluniodd yn arbennig gyda'r bwriad o fawrygu symlrwydd bywyd Dewi Sant.

Bydd y cerrig glas sydd ynddi yn rhai y byddai Dewi ei hun yn eu hadnabod a chynlluniodd y gwaith metel fel ei fod yn symbol o onestrwydd, cryfder a chymeriad daearol Dewi ei hun ac yn symbol o Dyddewi.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy