±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Steddfod Gwilym Owen - dydd Llun

Gwilym OwenNewid ochr gyfryngol
Roeddwn i'n gywir pan ddeudis i nos Sadwrn fod yna rywbeth mawr wedi digwydd i Gylch yr Iaith ac fe ddois i ar draws poster ar ochr sgip gwastraff heddiw sy'n profi hynny.

Poster sy'n cyhoeddi mai nid dyfodol Darlledu Cymraeg fydd testun y gwrw cyfryngol Euryn Ogwen yng nghyfarfod y Cylch bnawn Mercher ond yn hytrach codi bwgannod am beryglon y trên grefi cyfryngol Cymraeg yng ngoleuni'r Mesur Darlledu Newydd.

Ac meddai'r Cylch ar waelod y poster "Dowch i gefnogi Radio Cymru ar S.4.C.

Onid rhain oedd y gelynion mawr!. Do fe ddaeth tro ar fyd.

Dwy wyl Penfro
Mae'n ymddangos fod yna ddwy wyl ym Mhenfro yr wsnos yma. Yr wyl sywddogol yma yn Nhyddewi a'r hyn mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn alw yn Eisteddfod Solfach - yr hyn ma nhw yn ei alw yn wyl alternatif radicalaidd.

Yn Solfach y mae'r cyffro meddai'r Gymdeithas ond mae'n ddiddorol mai ar faes Steddfod Tyddewi mae' nwh'n cynnal eu raliau a'u protestiadau.

Rhyfadd te'.

Meddwi ar farn
A dyna ichi'r mudiad iaith arall na - Cymuned. Mudiad sydd yn ôl rhai yn tra-arglwyddiaethu ar dudalennau'r cylchgrawn Barn.

Ond och a gwae beth sydd ar glawr y rhifyn Steddfodol o'r dywediedig gylchgrawn - dim ond llun o hanner dwsin o boteli gwin organig estron ac o danynt ddyfyniad o waith y modernydd hwnnw Sion Cent.

Dyna beth ydi cadw cysylltiad a gwerin gwlad y cadarnleoedd Cymreig mae''n debyg.

Mewn dwy iaith
A pharhau ar y trywydd ieithyddol, mae'n anodd gwybod bellach be ydi sefyllfa'r Rheol Gymraeg yn y Brifwyl 'ma.

Mae'n amlwg nad yw Cymdeithas y Meysydd Chwarae yn parchu'r rheol o gwbl, ac i brofi hynny mae nhw'n rhannu iô-iôs uniaith Saesneg ar y maes tra bo Cwmni Rwber Caerdydd yn gwerthu condoms cwbl ddwyieithog ar Faes B.

Dewiswch eich iaith a dewiswch eich pleser!

Ger y Llys
Chwarae teg i'r Parchediaf Rowan Williams am amddiffyn Gorsedd y Beirdd yn erbyn cyhoeddiadau o baganiaeth yn y Wasg Brydeinig dros y Sul.

Ac mae'n hen bryd, falle, i'r Sanhedrin Eisteddfodol hefyd arddangos mwy o barch tuag at yr Archdderwydd â'i gobanog griw.

Sut bydda hi ar Lys yr Eisteddfod heby Gorseddogion.

O'r dwy fil a chwarter sy'n aelodau o'r Llys mae mil a saith gant o aelodau Gorseddol - sy'n siarad cyfrolau am wir frwdfrydedd y genedl tuag at ei Phrifwyl ddiwylliannol - y miloedd hynny sy'n gwario mwy ar fwyd, gwin a gwirodydd bob mis Awst na fyddai hi' yn gostio i ymaelodi a'r Llys am oes.

Gair i gall.

Dychymyg cadeiriol
Ac o sôn am ddoethineb tybed nad aeth hwnnw ar goll pan benderfynwyd ar gynllun Cadair Prifwyl Penfro.

Wnai i ddim manylu dim ond awgrymu fod dychymyg wedi mynd dros ben llestri. Ac eto falle erbyn pnawn Gwener y gellir deud fod y gadair yn arddangos mwy o wreiddioldeb na'r casgliad o gerddi buddugol os bydd un.

O gofio rhai o weithiau arobryn y gorffennol fyddai hynny ddim yn syndod o gwbl.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy