±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Dyddiadur Hywel (2): rhannu profiadau steddfodol

Hywel Gwynfryn

Hywel Gwynfryn yn Eisteddfod Tyddewi - dydd Mawrth i nos Wener.



Dydd Mawrth.
Deffro am bump. Pam nes i yfed y Jameson ola' 'na? Pam mae 'na ddyn bach efo morthwl mawr yn colbio fy ymenydd, yn ddidrugareddd. Be' dwi'n mynd i neud am y ddwy awr a hanner nesa? Gwylio teledu....gwasgu'r botwm.....ffilm Indiaidd, gyda is deitlau yn Saesneg... ddim diolch.

Diffodd y set... llyncu dau Ibuprofen... a llwyddo i fynd yn ôl i gysgu.

Teimlo'n well ar ôl brecwast yn y Mariners, Hwlffordd, lle 'dwi'n aros. Ar ôl cyrraedd y cae penderfynnu mynd i babell Save the Children. Roeddwn i'n ffilmio yng nghefn gwlad Kenya yn ddiweddar ac yn gweld plant bach yn cerdded filltiroedd i'r ysgol yn droednoeth gweld mam yn bargeinio a gwerthwr llyfrau addysg ail law ar ochr y ffordd, ac yn methu fforddio prynnu'r llyfrau oherwydd nad oedd ganddi ddigon o fwyd i addysgu ei phlant, a'u bwydo nhw.

Felly 'dwi 'di penderfynnu trefnu cyngerdd y flwyddyn nesa yn Llangollen - Cân i Kenya- diwrnod o gerddoriaeth, gyda chyngerdd yn y nos, a'r bwriad ydi codi gymaint o arian a phosib er mwyn codi ysgol yn Kenya.

Mae Cronfa Achub y Plant am ein helpu felly gwyliwch y gofod hwn am ddatblygiadau pellach.

Yn y Pafiliwn pnawn ma i weld Eirug Wyn yn ennill gwobr goffa Daniel Owen, am yr eildro, a mae o wedi ennill y Fedal ddwywaith. Lynwen ap Gwynedd yn yr osgordd oedd yn ei gyrchu i'r llwyfan, yn rhoi cusan ysgafn ar ei foch ar ôl ei arwisgo. Deall wedyn ei fod yn gefnder iddi. Gobeithio y caiff o flynyddoedd eto i gystadlu a chyhoeddi.

Chydig iawn o bobol sy'n eistedd yn y pafiliwn i wrando ar y cystadlu ella dylid ystyried symud y cystadlu i'r Babell Len a digwyddiadau'r Babell i'r Pafiliwn mi fasa'r ddau le'n llawn wedyn. Pawb yn gadael maes y Steddfod yn falwodaidd o ara'.y broblem drafficyddol flynyddol!!

Dydd Mercher.
Dddim yn teimlo'n arbennig wedi bod ar fy nhraed drwy'r noswel, ar fy nhraed ac ar fy eistedd, yn y ty bach, i fod yn fanwl gywir! Rhyw gnoi parhaol yn y bol irritable bowel syndrome, ella. (Wythnos yn ôl, ar ddydd fy mhenblwydd, fe dderbyniais, nifer fawr o gardiau gan wrandawyr caredig, ac yn eu plith, lythyr, brwnt, budur, ciaidd, yn llawn rhegfeydd a iaith aflednais.

Llythyr di-enw, wrth gwrs, yn awgrymu, ymhlith pethau eraill, y dyliwn i ddathlu fy mhenblwydd drwy roi anrheg i'r genedl - a lladd fy hun! 'Toes na bobol neis o gwmpas. Mae'n amlwg i fod o'n credu mai fi ydi "Iritable Hywel Syndrome" Radio Cymru.)

Gwrando ar Rhian Mair Lewis yn canu Cilfan y Coed gan Rhys Jones ac Aled Lloyd Davies nhw sgwenodd y gân, ond Rhian sy' pia hi fedrai ddim credu y basa neb yn ei chanu hi'n well.

Cael cwmni Eigra Lewis Roberts wrth y bwrdd sylwebu yn y Pafilwn, ar gyfer seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Angharad Price enillodd y fedal, am ddyddiadur dychmygol, o dan y teitl O Tyn y Gorchudd
Mae Eigra mor brysur ac erioed ac yn mynd i gyhoeddi nofel cyn bo hir. Biti na fasa hi'n cael gwahoddiad gan S4C i sgwennu Minafon the next Generation Roedd honno'n gyfres wych
Teimlo'n ddi hwyl erbyn chwech nôl i'r Gwesty i'r gwely.

Dydd Iau
Teimlo fel y gog, a chan mai Gog ydwi, felly dyliwn i deimlo am wn i!

Mae hon yn Eisteddfod deuluol ar un ystyr... Owain yn gweithio i gwmni Dolen, yn bwydo'r stiwardiaid a'r pwysigolion; Branwen yn rhedeg o gwmpas y maes efo coesau Gareth Owen ar ei chefn (hynny ydi coesau camera Gareth Owen,HTV); Huw yn aros ar y maes pebyll ac yn chwarae mewn gig ar Maes B nos Wener efo'i grwp Mwsog, a finna' yn cyflwyno yn fy ail Eisteddfod ar bymtheg ar hugain ...

Y Drenewydd oedd y gynta yn '65...

Yn y pafilwn yn y pnawn ar gyfer Seremoni Croesawu'r Cymru Tramor... Meistr y Ddefod, R.Alun Evans, yn awgrymu y dylid diwygio'r seremoni a meddwl am ffyrdd eraill o gysylltu efo'r Cymry sydd ar wasgar...

Mae'r niferoedd sy'n dwad draw yn flynyddol o'r pedwar ban yn lleihau... dim ond rhyw gant oedd ar y llwyfan heddiw. Yn wir, oni ddylai ni fod yn gofyn be' 'di gwerth y seremoni yma?

Pam 'da ni'n neilltuo seremoni arbennig i groesawu pobol yn ôl i Gymru sydd wedi gadael o'u gwirfodd i greu bywyd newydd iddyn nhw'u hunain a'u teuluoedd mewn gwledydd eraill. A phob dymuniad da iddyn nhw.

'Dwi ddim chwaith yn un o'r garfan sy'n credu mai "yma yng Nghymru ydi 'u lle nhw" gan fod ganddyn nhw berffaith hawl i fyw a gweithio, lle mae nhw'n dymuno.

Mae fy nghyfneither Kathleen yn un o'r Cymry alltud. Roedd hi ar y llwyfan heddiw. Kathleen Okapaka, sy'n byw ers blynyddoedd efo'i gwr David yn Nigeria - ac yn hapus iawn. Yn hapus i ymweld â Chymru, ac yn hapus i ddychwelyd hefyd.
Dylan Iorwerth wedi awgrymmu y dylid cael seremoni "Galw'r pentrefi lle mae'r Gymraeg yn dal yn Fyw"

Ar y ffordd adra, galw yn Solfa am beint. Dewi Pws yn ei hwyliau, Meirion Macintyre Huws, ar ei ffordd i weld Griff o'r Super Furreys yn canu mewn neuadd gyfagos, ac un o actorion Cwm Deri yn ymgodymu efo llond plat o wy, chips, a ham- efo LOT FAWR O HAM!

Peri trafferth i'r ArchdderwyddDydd Gwener.
"A wnaiff Pawb yn y Pafiliwn, sefyll ar ei draed, neu ei thraed?"

Sgwn i fydd hyn y datblygun ffashiwn blynyddol o ffugenwau i greu cymmaint o embaras a phosib ir Archdderwydd?

Myrddin ap Dafydd gododd eleni, a Twm Morys ddaeth yn ail. Mae na son
i fod o wedi ffonio Meirion Mcintyre Hughes a chrefu arno fo i roir gadair i Myrddin - sgersli bilif!

Mae on siwr o godi ar ei draed rhyw ddiwrnod - yn gwisgo croen llwynog ar ei ben maen bur debyg.

Fe ges i gwmni Hywel Teifi Edwards drwyr seremoni. Mae ei wybodaeth on fy nychryn yn gwybod popeth am yr Eisteddfod. Fyddain meddwl weithiau ei fod on byw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ysbrydol ai fod on cael cyfarfodydd preifat yn hwyr y nos efo Ceiriog, a Thalhaearn, Edith Wyn, a Llew Llwyfo.

Mae hi wedi bod yn Steddfod wych ond be fydda in gofio amadani?
Rhian Mai Lewis yn canu Cilfach y Coed;
Byta bwyd Indiaidd blasus iawn bob dydd;
Y golygfeydd anhygoel ar hyd yr arfordir;
Myrddin ap Dafydd ar gefn beic;
Meg Ellis yn fy ngalwn philistiad am nad oeddwn i ddim yn hoffi cerdd y Goron, ac yn deud y dyliwn i "Ei darllen yn UCHEL!!!!!

Ella y dyliwn i - wedir cwbwl, mi ddaru pobol ddeud petha cas iawn am Monet a Manet hefyd.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy