±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Dwbwl dwbwl i Eirug Wyn

Eirug WynNofelydd yn edrych ymlaen trwy salwch at ei ddiwrnod mawr yn Eisteddfod Tyddewi - ymladd brwydr yn erbyn canser . . .

Cafodd Eirug Wyn wybod fod ganddo ganser ac iddo ennill un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi o fewn deuddydd i'w gilydd.

Yn y cyfnod ers hynny, tra bu'n derbyn triniaeth feddygol egr, bu edrych ymlaen tuag at dderbyn gwobr goffa Daniel Owen ddydd Mawrth yr Eisteddfod yn help i'w gynnal, meddai.

Dywedodd ei bod yn rhan o'r frwydr yn erbyn ei salwch fod rhywbeth i edrych ymlaen ato. Ond ychwanegodd, "Yn naturiol, yr oeddwn wedi rhybuddio'r Trefnydd fod posibilrwydd na allwn fod yn bresennol ac yr oedd gennym bosibiliadau eraill," meddai mewn cynhadledd i'r Wasg wedi'r seremoni i'w wobrwyo ar brif lwyfan yr Eisteddfod.

Mewn cystadleuaeth rhwng naw - heb yr un nofel "wirioneddol wael" - brwydr rhwng dwy nofel fu hi yn y diwedd gydag un beirniad, Geraint V. Jones, eisiau gwobrwyo Mebyn a'r ddau arall, Branwen Jarvis a John Rowlands, am roi'r wobr i Seimon, sef Eirug Wyn.

Ond er bod gwahaniaeth barn canmolodd y tri beirniad y nofel fuddugol, Bitsh.

Dywedodd Geraint V. Jones ei fod ef yn ffafrio Y Llaw Wen oherwydd mai Mebyn oedd yr hyn a alwyd gan y beirniaid yn "arddulliwr" cryfaf y gystadleuaeth.

"Mae'i iaith a'i fynegiant yn taro deuddeg bron yn ddi-feth. Ceir cynildeb celfydd yn y naratif a'r ddeialog . . . er ei fod weithiau yn gallu bod yn or-gynnil," meddai Branwen Jarvis wrth draddodi'r feirniadaeth.

Ac "er bod yma rai gwendidau, mae hwn yn waith llwyddiannus gan awdur galluog a phrofiadol ac ym marn Geraint V. Jones hon oedd nofel orau'r gystadleuaeth, yn bennaf oherwydd rhinweddau'r arddull."

Fodd bynnag, y Bitsh gariodd y dydd a hynny er gweaethaf "mân amheuon" oedd yn codi ynglyn â'r adeiladwaith.

Nofel wedi ei gosod yn y chwedegau yw hi gyda lle amlwg i ganeuon pop, Cymraeg, Saesneg ac Americanaidd, y cyfnod hwnnw.

Mae'n ymwneud ag Albi sydd yn gweithio yn Woolworth - nid yn fyfyriwr fel y pwysleisiodd y beirniaid - "ac mae ei Gymru yn un arteithiol o gymhleth, gyda chasineb cariadus at Gymru yn gyfeiliant i'w ymdrech i ddod i delerau â'i rywioldeb dyrys."

Disgrifwyd y nofel fel "archwiliad ar gyflwr seoicolegol" a "rhyw gysgod o Gymru yn y cefndir fel bitsh" gyda'r "personol a'r diwylliannol wedi ymgordeddu'n annatod."

Dyma'r ail dro i Eirug Wyn ennill y Daniel ac enillodd y fedal lenyddiaeth ddwywaith hefyd.

Er nad oes ganddo hawl i gystadlu am y fedal eto nid oes unrhyw gyfyngiad ar gystadlu am Wobr Goffa Daniel Owen ond yr awgrym a gafwyd gan Eirug Wyn wedi'r gystadleuaeth oedd na fyddai yn ymgeisio eto beth bynnag.

Dywedodd mai'r wobr "deilwng" o £5,000 fu'r sbardun i gystadlu gan fod hynny meddai ef yn wobr gymeradwy am yr ymdrech o sgrifennu nofel a chanmolodd y gystadleuaeth am hynny.

Dywedodd nad yw'n sgrifennu ar hyn o bryd nac wedi gallu sgrifennu er pan fu'n ymladd yn erbyn ei ganser.

Eglurodd fod un driniaeth ar fin dod i ben ac y bydd yn wynebu triniaeth bellach fwy egr fyth wedi hynny.

Dywedodd hefyd ei fod yn ymwybodol nad oes gwella i'w ganser ond y gall triniaethau sicrhau cyfnodau o adferiad. Fel yr awgryma'r ffugenw Seimon bu'r Cynghorydd Seimon Glyn yn ddylanwad.

"Doedd yna fawr o siap nofel arni mewn gwirionedd nes ffrwydrodd sylwadau Seimon Glyn yn newyddion ac y ganwyd Cymuned," meddai.

Cyflwynwyd ei wobr i Eirug Wyn gan R. Alun Evans sy'n ddarpar lywydd Llys yr Eisteddfod ac hefyd yn frodor o ardal Llanbrynmair ym Mhowys, fel y nofelydd.

Yn 51 a hanner oed - "ac mae'r hanner yn bwysig i mi" - cyhoeddodd Eirug Wyn 15 o lyfrau, 11 ar gyfer oedolion a phedwar i blant gydag 14 ohonyn nhw yn nofelau ac un yn gyfrol o straeon byrion.

Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Bontdolgadfan, Ysgol Llandinorwig ac Ysgol Brynrefail yn Llanrug cyn treulio cyfnod yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Bro Nedd a'r Fedal lenyddiaeth yn Ninefwr a Llanelli, 1998, 2000.

Mae'n briod gyda Gwenda er 1973 ac mae ganddyn nhw ddwy ferch, Dwynwen a Rhiannon.

Mae'n byw yn y Groeslon, Caernarfon er 1977 ac ymhlith ei ddiddordebau mae'n rhestru darllen, ffilmiau cowbois a Manchester United.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy