±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
'Rhaid i'r Steddfod ddal i grwydro' - Llywydd

Pafiliwn TyddewiSteddfod a gerddo a gaiff!
Rhoddodd llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ei gefnogaeth lwyr i Brifwyl sy'n symud o le i le o amgylch Cymru.



Mae hynny, yn ôl y Dr Aled Lloyd Davies, yn llesol nid yn unig i'r ardaloedd yr ymwelir â hwy ond i'r Eisteddfod ei hun hefyd.

Yn annerch yn ystod y seremoni agoriadol yn Nhyddewi nos Wener dywedodd y Dr Davies fod rhai yn dadlau y byddai'r Eisteddfod yn rhatach i'w chynnal, yn gallu cael gwell cyfleusterau ac yn haws i'w gweinyddu o gael ei chynnal mewn dwy neu dair o ganolfannau sefydlog.

Ond gan gyhoeddi,"Symudol ddylai y Brifwyl fod" rhybuddiodd y byddai ardaloedd fel Tyddewi ar eu colled heb ymweliadau'r Eisteddfod a'u hwb i ddiwylliant lleol.


Yr agoriad swyddogolYn ychwanegol at hynny byddai' colli'r "trallwysiad" o ynni sy'n cael ei sbarduno yn y gwahanol fröydd "yn golled arswydus i'r Eisteddfod ei hun," meddai.

Talodd deyrnged arbennig i'r ymdrechion a fu ym Mhenfro i godi arian i gynnal yr Wyl.

Cyfrannodd awdurdodau lleol £276,000 a denodd yr eisteddfod hon fwy o nawdd gan ddiwydiant a masnach nag unrhyw Eisteddfod Genedlaethol o'r blaen, £400,000.

Casglodd trigolion sir Benfro, hwythau, £185,000 tuag at y gronfa leol.

Ar y llwyfan gydag Aled Lloyd Davies yn cyhoeddi agoriad yr Eisteddfod yr oedd yr aelod seneddol lleol, Jackie Lawrence a'r aelod lleol ar y Cynulliad Cenedlaethol, Richard Edwards, yn ogystal â chadeirydd y pwyllgor gwaith, y Cynghorydd John Thomas.


John Thomas - oddi ar sgrin ar y llwyfanCanwyd y cywydd croeso gan Barti'r Gromlech gyda gwahoddiad i bobl o bob cwr o Gymru i "wlad y dewin lle mae hud a rhyfedd rin" heb sôn am "swyn y wês wês".




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

±«Óãtv Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy