±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Suzanne Maglente Merch fferm yn mwytho'r enwogion
08 Rhagfyr 2003
Dychmygwch hedfan o wlad i wlad yn mwytho enwogion fel yr actor Jude Law a'r canwr George Michael. Yna, treulio diwrnodau mewn dinasoedd fel Efrog Newydd a Cape Town cyn dychwelyd i Lundain.

Breuddwyd i lawer, mae'n siwr, ond mae hyn oll yn rhan o waith Suzanne Maglente a ddaw yn wreiddiol o Fancycapel, Caerfyrddin.

Wedi tair mlynedd yn astudio mewn coleg therapi harddwch yng Nghaerdydd, bu Suzanne yn gweithio fel therapydd harddwch am ddwy flynedd a hanner ar longau gwyliau cyn ymuno â chwmni teithio Virgin yn gwneud yr un gwaith ar fwrdd eu hawyrennau.

Pobol fusnes yw'r rhan fwyaf o'i chwsmeriaid ond ambell waith mae na gwsmer tra enwog yn dod i'w gweld, yn enwedig wrth hedfan i Los Angeles neu Efrog Newydd. "Ges i Ruby Wax unwaith" meddai. "A grwpiau fel The Corrs, Atomic Kitten a'r Sterephonics. Ond y sioc fwyaf dwi wedi cael odd pan ddaeth Mr. Evans, fy nghyn-brifathro ym Mro Myrddin ar yr awyren!"

Erbyn hyn, mae Suzanne yn rhwbio ysgwyddau gyda Richard Branson, perchennog cwmni Virgin yn aml, ac yn ei alw'n ffrind. "Mae e'n fachan tawel a neis iawn", meddai amdano. "Sai'n nerfus yn rhoi massage i'w gefn e rhagor!"

Mae Suzanne bellach yn byw yn Sussex gyda'i gwr, ond mae hi wastad yn hapus i ddychwelyd i Gaerfyrddin. Mae hi'n manteisio'n aml ar y cyfleoedd i hedfan gydag Awyr Cymru i Gaerdydd, lle mae ei brawd a'i chwaer yn byw, a dyw hi ddim yn colli un Nadolig gyda'i rhieni yng Nghaerfyrddin, byth. Heblaw am eleni.

Mi fydda' i yn y Phillippines eleni achos bod fy nheulu-yng-nghyfraith yn byw yno" meddai, lle bydd hi'n mwynhau cig mochyn wedi ei goginio yn yr awyr agored yn y tywydd twym.

Ond does unman yn debyg i gartref iddi, a Chaerfyrddin yw hwnnw.

Heledd ap Gwynfor
Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý