±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Steffan Hughes a Tracey Hinton Llwyddiant Steffan a Tracey yn Beijing
Hydref 2008
Llwyddodd Steffan Hughes o Beniel a Tracey Hinton i ddod yn bedwerydd yn ras y 200 medr yn y Gêmau Paralympaidd.

Gwnaeth y Gêmau Olympaidd gyfareddu sawl un dros gyfnod yr haf ond i un teulu o bentref Peniel, y Gêmau Paralympaidd oedd yn mynd â'r sylw. Y rheswn dros hyn oedd bod Steffan Hughes, mab hynaf Sue a Geraint Hughes, Maes Brynglas, yn cystadlu yno fel tywysydd i'r athletwraig ddall Tracey Hinton o Gaerdydd.

Yn ystod mis Medi aeth y teulu i Beijing er mwyn cefnogi Steffan a Tracey. Roedd Steffan ei hun wedi teithio i wersyll paratoi yn Hong Kong, felly dyma ddechrau trwy gael tamed o'r cefndir gyda Geraint, ei dad:

Sut ddechreuodd Steffan ar y gwaith o fod yn dywysydd?

Ymateb wnaeth Steffan i hysbyseb welodd e pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg UWIC, Caerdydd. Dyma fe wedyn yn cael cynnig mynd i gyfarfod â Tracey a chael cyfnod prawf i weld a fyddai'r ddau yn medru cyd-weithio.

Yn amlwg, fe aeth y cyfnod hwnnw'n hwylus a bu Steffan a Tracey yn cyd-redeg am nifer o flynyddoedd. Wrth ddechrau ar ei yrfa fel athro ryw ddwy flynedd yn ôl fe roddodd Steffan y gorau i fod yn dywysydd i Tracey am nad oedd yn medru cyfuno'r gwaith gyda'r oriau ymarfer a'r holl deithio.

Felly nid oedd Steffan wedi meddwl y byddai'n cael ymweld â'r Gêmau Olympaidd eleni ond fis Tachwedd y llynedd cafodd alwad ffôn oddi wrth Tracey. Roedd ei thywysydd hi wedi cael anaf ac roedd arni angen tywysydd newydd ar frys er rnwyn iddi fedru cystadlu yn y Gêmau Paralympaidd yn Beijing.

Gan fod Steffan eisoes wedi gwneud y gwaith, ef oedd y dewis naturiol i lenwi'r bwlch a gyda chydweithrediad Ysgol Gynradd Dewi Sant, lle mae Steffan yn athro, cafodd gyfle i ailgydio yn y gwaith ac ymweld â'r Gêmau Olympaidd.

Beth yn union y mae'n rhaid i Steffan ei wneud wrth dywys Tracey?

Gan fod Tracey yn hollol ddall mae'n rhaid i Steffan redeg ochr yn ochr â hi gan siarad a disgrifio digwyddiadau'r ras iddi wrth fynd. Mae yna gortyn yn clymu breichiau'r ddau gyda'i gilydd.

Yn naturiol mae'n rhaid bod yn ffit iawn i wneud y gwaith ond nid yn unig ei fod yn gorfforol flinedig, mae'r gofyn am ganolbwyntio a siarad gydol y ras yn gallu bod yn feddyliol flinedig hefyd.

Sut oedd Tracey a Steffan yn mynd ati i baratoi ar gyfer cystadlu yn y Gêmau Paraolympaidd?

Dechreuodd y paratoadau o ddifrif ym mis lonawr, pan aeth y ddau i Dde Affrica am bythefflos o ymarfer. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn cynhaliwyd cyfnod ymarfer ym Mhortiwgal am bythefnos ac ym mis Mai aethant allan i Beijing i ymarfer.

Maent hefyd wedi bod yn cystadlu yrn mhencampwriaethau'r 'Golden League' ac wedi rasio yn Ffrainc, Manceinion, Leeds a Lerpwl dros yr haf. Mae wedi bod yn gyfnod prysur ond gwerth chweil. Mae Steffan wedi cael profiadau gwych wrth gyd-redeg gyda Tracey.

Yn 2004 aethant i gystadlu yn y Gêmau Paraolympaidd yn Athen, lle daeth Tracey yn bedwerydd yn y ras 800m i ddeillion. Ni fu'n cystadlu yn y ras honno yn Beijing dim ond yn y 100m, 200m a'r 400m!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý